La Generación del 45

Enw ar fudiad o lenorion o Wrwgwái yw La Generación del 45 (Sbaeneg am "Genhedlaeth 45") a ddaethant i'r amlwg rhwng 1945 a 1950. Defnyddir yr enw hefyd i grybwyll cerddorion ac arlunwyr o'r un cyfnod. Roedd ei aelodau'r to hwn yn rhan o ffenomen gymdeithasol, wleidyddol a diwylliannol a gafodd ddylanwad penderfynol ar hunaniaeth ddeallusol gyfoes yr Wrwgwaiaid.[1]

La Generación del 45
Enghraifft o'r canlynolsymudiad celf Edit this on Wikidata
GwladwriaethWrwgwái Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
La Generación del 45 ar achlysur ymweliad Juan Ramón Jiménez. O'r chwith i'r dde, yn sefyll: María Zulema Silva Vila, Manuel Arturo Claps, Carlos Maggi, María Inés Silva Vila, Juan Ramón Jiménez, Idea Vilariño, Emir Rodríguez Monegal, Ángel Rama; yn eistedd: José Pedro Díaz, Amanda Berenguer, Zenobia Camprubí, Ida Vitale, Elda Lago, Manuel Flores Mora.
Cyfarfod y cylchgrawn Número yng nghartref Emir Rodríguez Monegal. O'r chwith i'r dde, yn sefyll: Emir, Zoraida Mébot, Manuel Claps, Idea Vilariño, Luz López, Baíta Sureda; yn eistedd: Sarandy Cabrera a Mario Benedetti.

Ymddangosodd La Generación del 45 o ganlyniad i gyfnod hir o ddatblygiadau diwylliannol ym Montevideo. Cafodd twf y dinasoedd yn Wrwgwái yn ystod hanner cyntaf yr 20g ôl-effeithiau ar gynnyrch llenyddol y wlad, fel y dywed Mario Benedetti:

"Rwy'n credu bod y cylchgrawn Número yn llawer mwy trylwyr pan mae'n ymdrin â'r llenyddiaeth genedlaethol bron bob amser o safbwynt drefol, ffordd o lenydda a ddechreuodd gyda'n cenhedlaeth, "y 45", oherwydd tan hynny nid oedd llên Wrwgwái ond yn delio â themâu cefn gwlad, y gauchos, ac ati, ac roeddem mewn cyfnod pan oedd hynny i gyd wedi newid. Daeth yr awduron a gynhyrchodd bron i ddim yn y blynyddoedd hyn o gefn gwlad, a chefn gwlad yr oeddent yn adnabod trwy feirdd eraill a oedd wedi byw yn y profiad hwn.. . Roedd ysgrifenwyr y cylchgrawn Asir yn adlewyrchu amgylchedd delfrydol a rhamantus yn eu gwaith, yn siarad am y dirwedd, am natur, ac nid oeddent erioed yn cyfeirio at y ddinas. Yn ogystal, ar y pryd, roedd llawer o bethau'n digwydd yn y ddinas, roedd hanner y wlad yn byw ym Montevideo, dyna'r realiti.. ."[2]

Yn yr ugain mlynedd wedi 1945 bu llên Wrwgwái ar ei hanterth. Ers yr oes aur honno, mae rhai o feirdd y wlad wedi efelychu athroniaeth a thueddiadau La Generación del 45. Mae nifer o lenorion diweddarach wedi cynnal y fflam a gynnwyd gan La Generación del 45.

Aelodau'r genhedlaeth golygu

Ymhlith yr awduron y gellir eu henwi yn rhan o'r genhedlaeth hon mae Carlos Maggi, Manuel Flores Mora, Ángel Rama, Emir Rodríguez Monegal, Carlos Real de Azúa, Carlos Martínez Moreno, Domingo Bordoli, Mario Arregui, Mauricio Muller, José Pedro Díaz, Amanda Berenguer, María Inés Silva Vila, Tola Invernizzi,[3] Mario Benedetti, Ida Vitale, Idea Vilariño, Líber Falco, Carlos Brandy, María de Montserrat, Juan Cunha, Giselda Zani, Sarandy Cabrera, ac Armonía Somers. Ystyrir Juan Carlos Onetti yn rhywbeth o dad ar y genhedlaeth, oherwydd iddo gyhoeddi tair nofel a nifer o straeon byrion erbyn 1945.

Cyfeiriadau golygu

  1. Amseroedd goddefgarwch, amseroedd dicter.
  2. http://www.cervantesvirtual.com/bib_autor/mbenedetti/entrevista.shtml. Missing or empty |title= (help)
  3. Generación del 45: severa en la crítica y brillante en la creación. Archifwyd 2012-09-22 yn y Peiriant Wayback. Nodyn:Wayback