Caroline Berry
Mae Caroline Berry yn actores o Gymraes sydd wedi ymddangos mewn cynhyrchiadau yn y Gymraeg a, gan fwyaf, yn y Saesneg. Ymhlith ei hymddangosiadau mwyaf adnabyddus a diweddar mae Gwledd (2021), The Pembrokeshire Murders (2021), It's a Sin (2021) a Requiem (2018).
Caroline Berry | |
---|---|
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | actor |
Cefndir
golyguBu i Caroline astudio yn Ysgol Ddrama East 15 yn Llundain.[1]
Gwaith
golyguCynyrchiadau Cymraeg neu ddwyieithog
golyguMae Caroline wedi ymddangos yn ffilm arswyd Gwledd, cyfres ddrama ditectif, Bang, Oed yr Addewid (2001).
Cynyrchiadau Saesneg
golyguBu iddi ymddangos mewn gwahanol mathau o rannau mewn nifer fawr o gynyrchiadau iaith Saesneg, nifer wedi eu lleoli yng Nghymru ac â naws Gymreig fel The Pembrokeshire Murder a The Life Boat ac eraill tu allan megis, cyfresi It's a Sin, Doctors, Inspector Morse, Birds of a Feather, Mayday, Coronation Street, a Casualty. Mae wedi ymddangos mewn ffilmiau gan gynnwys Gwledd (a ddosbarthwyd hefyd o dan deitl Feast).[2]
Cynyrchiadau eraill
golyguMae wedi ymddangos mewn dramâu megis Swansea's Three Night Blitz a chyfresi radio ar BBC Radio Wales (Jewelsh) a BBC Radio 4, Look Who's Back.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Caroline Berry". Gwefan David Daly Associates. Cyrchwyd 28 Awst 2022.
- ↑ "Caroline Berry". Gwefan IMDb. Cyrchwyd 28 Awst 2022.
- ↑ "Caroline Berry". Gwefan David Daly Associates. Cyrchwyd 28 Awst 2022.