Sant o ddiwedd y 5ed i ddechrau'r 6g oedd Carranog (ganwyd c. 470; Gwyddeleg: Cairnech; Llydaweg: Karanteg; Lladin: Carantocus; Saesneg: Carantoc; Cernyweg: Crantoc) . Yn ôl y llawysgrif Progenies Keredic Regis de Keredigan, a sgwennwyd ar ddechrau'r 13g,[1] roedd yn fab i'r Brenin Ceredig, ond yn ôl Peniarth 12 ac 16 (a Iolo tud. 110 a 125) roedd yn fab i Corun ac felly'n ŵyr i Ceredig. Ceir felly peth dryswch yn ei gylch.

Carranog
Ganwyd470 Edit this on Wikidata
Ceredigion Edit this on Wikidata
Man preswylCeredigion Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Blodeuodd550 Edit this on Wikidata
Swyddabad Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl16 Mai Edit this on Wikidata
PerthnasauCeredig ap Cunedda Edit this on Wikidata
Statue de la Vallée des Saints à Carnoët, Llydaw
St Carannog, Llangrannog, Cymru

Dywed y Progenies i Garannod wrthod etifeddu gorsedd Deheubarth Cymjru ar ôl ei dad, gan fynd yn feudwy. Trigodd mewn ogof syml ychydig yn uwch na phentref Llangrannog heddiw. Ymwelid ag ef yn aml gan golomen, a chredodd Carranog mai negesydd Duw ydoedd. Un diwrnod, tra roedd Carranog yn naddu ffon gyda chyllell, ymwelodd y golomen gan ddwyn rhai o'r naddion pren yn ei big a hedfan i ffwrdd. Credodd Carranog mai Duw oedd yn anfon nesges iddo, ac felly dilynodd y golomen, ac islaw'r ogof, gollyngwyd y naddion. Denghonglwyd hyn gan Garannog fel neges gan Dduw, a oedd yn nodi'r fan lle y dylai godi eglwys, a dyna a wnaeth: codwyd eglwys yno o blethwaith a chlai yn y fan lle mae'r eglwys presennol.[2][3]

Ychydig wedyn, aeth Carannog ar daith, gan ymweld â Llydaw, Gwlad yr Haf, Cernyw ac Iwerddon. Ceir pentref yn Carhampton, Gwlad yr Haf a Crantock yng Nghernyw, sy'n dwyn ei enw. Credir iddo farw yn Iwerddon ar yr 16eg o Fai.

Cyfeiriadau golygu

  1. Gweler Y Cymmrodor XIX, tud. 27.
  2. Lives of British Saints; adalwyd Chwefror 2016
  3. llangrannog.org.uk; adalwyd Chwefror 2016