Ceredig ap Cunedda
brenin Cymru
Yn ôl traddodiad, un o naw mab Cunedda, a ddaeth i ogledd Cymru o'r Hen Ogledd, a sefydlydd Teyrnas Ceredigion oedd Ceredig ap Cunedda (fl. o gwmpas canol y 5g).
Ceredig ap Cunedda | |
---|---|
Ganwyd | 424, 420 Gododdin |
Bu farw | 453 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Tad | Cunedda |
Priod | Meleri ach Brychan |
Plant | Iusay ap Ceredig, Sant ap Ceredig, Carranog, Ithel ap Ceredig |
Hanes a thraddodiad
golyguCredir fod ei dad Cunedda wedi mudo gyda'i ddilynwyr o'r Hen Ogledd i ogledd Cymru tua'r flwyddyn 440 OC. Fel gweddill ei deulu, hannodd Ceredig o ardal Manaw Gododdin. Sefydlodd Cunedda Deyrnas Gwynedd a roddodd dir i'w feibion ar ôl gyrru allan y Gwyddelod.
Daeth y wlad a adnabyddir fel Ceredigion i ran Ceredig, yn ôl yr hanes, ond mae haneswyr diweddar yn amau dilysrwydd y traddodiad hwnnw gan fod hanes cynnar Cymru yn frith o chwedlau tebyg a luniwyd i esbonio enwau lleoedd.
Os gwir yr hanes, roedd gan Ceredig wyth o frodyr, sef:
- Einion Yrth, sefydlydd Caereinion ym Mhowys
- Rhufon, sefydlydd Rhufoniog
- Dunod, sedfydlydd Dunoding
- Aflog, sefydlydd Aflogion yn Llŷn
- Dogmael, sefydlydd Dogfeiling
- Edern, sefydlydd Edeirnion
- Typiawn/Tybion, tad Meirion, sefydlydd Meirionnydd.
Mae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |