Hanesydd ôl-Rufeinig (neu Fysantaidd) a gwladweinydd oedd Flavius Magnus Aurelius Cassiodorus Senator neu Cassiodorus (c.490 - c.580), a aned yn Scyllaceum (Squillace heddiw) yn Nghalabria, de'r Eidal. Roedd Cassiodorus yn weinidog ac ymgynghorwr i Theodoric Fawr, brenin yr Ostrogothiaid yn yr Eidal, ac yn nes ymlaen yn brif weinidog i'w olynydd y Frenhines Amalasontha.

Cassiodorus
Delwedd Cassiodorus yn Gesta Theodorici (12g, Prifysgol Leiden, Ms. vul. 46, fol. 2r)
Ganwydc. 487 Edit this on Wikidata
Scylletium Edit this on Wikidata
Bu farw583 Edit this on Wikidata
Scylletium Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Ymerodraeth Fysantaidd Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, hanesydd, cerddolegydd, llenor, damcaniaethwr cerddoriaeth, athronydd Edit this on Wikidata
Swyddseneddwr Rhufeinig Edit this on Wikidata
Adnabyddus amInstitutiones divinarum et saecularium litterarum, Anecdoton Holderi, History of the Goths, Historia ecclesiastica tripartita, Chronicle Edit this on Wikidata

Tua'r flwyddyn 540 ymddeolodd Cassiodorus o fywyd cyhoeddus er mwyn cysegru gweddill ei ddyddiau i lenydda ac astudio. Sefydlodd fynachlog yn Vivarium ar arfordir y Môr Ionaidd a hyrwyddai'r gwaith o gopïo llawysgrifau Clasurol. Ei brif gyfraniad i lenyddiaeth yw ei wyddoniadur ar ddysg a'r Saith Celfyddyd a baratowyd ar gyfer ei fynachod, sef yr Institutiones divinarum et saecularium litterarum. Daeth y llyfr yn waith safonol yn yr Oesoedd Canol a astudid ledled Ewrop. Cyfansoddodd yn ogystal hanes y Gothiaid sydd ar goll bellach ond yn adnabyddus i ni diolch i'r crynodeb ohono a wnaed gan yr ysgolhaig Jordanes (fl. 6g).

Gwaith

golygu
  • Laudes (drylliau o folawdau)
  • Chronica - Hanes y byd hyd 519 sy'n cyfuno hanes Rhufain a hanes y Gothiaid
  • Hanes y Gothiaid (526-533)
  • Variae epistolae (537), papurau Theodoric; S.J.B. Barnish Cassiodorus: Variae (Lerpwl: University Press, 1992) ISBN 0-85323-436-1
  • Exposition psalmorum
  • De anima ("Ar yr Enaid") (540)
  • Institutiones Divinarum et Saecularium Litterarum (543-555)
  • De Artibus ac Disciplinis Liberalium Litterarum
  • Codex Grandior (fersiwn o'r Beibl)

Llyfryddiaeth

golygu
  • James J. O'Donnell, Cassiodorus (1979)

Dolenni allanol

golygu