Calabria
Rhanbarth yn ne-orllewin yr Eidal yw Calabria (Lladin: Brutium). Catanzaro yw'r brifddinas; dinasoedd pwysig eraill yw Reggio Calabria a Cosenza.
![]() | |
![]() | |
Math | rhanbarthau'r Eidal, gorynys, ardal ddiwylliannol ![]() |
---|---|
Prifddinas | Catanzaro ![]() |
Poblogaeth | 1,947,131 ![]() |
Pennaeth llywodraeth | Roberto Occhiuto ![]() |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 ![]() |
Gefeilldref/i | Buenos Aires, Amman ![]() |
Nawddsant | Francisco ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | De'r Eidal, De'r Eidal ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 15,221.9 km² ![]() |
Yn ffinio gyda | Basilicata ![]() |
Cyfesurynnau | 39°N 16.5°E ![]() |
IT-78 ![]() | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Llywodraeth Calabria ![]() |
Corff deddfwriaethol | Cyngor Rhanbarthol Calabria ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | arlywydd Calabria ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | Roberto Occhiuto ![]() |
![]() | |
Mae Calabria yn ffurfio penrhyn yn pwyntio tua'r de-orllewin, a Chulfor Messina, dim ond 3.2 km yn ei fan gulaf, yn ei wahanu oddi wrth ynys Sicilia. Dim ond ag un rhanbarth arall y mae ganddo ffîn, sef Basilicata yn y gogledd. Mae'r rhanbarth yn ardal fynyddig, gyda mynyddoedd Pollino, La Sila ac Aspromonte.
Yn y cyfnod cynnar, roedd yr ardal yn rhan o Magna Graecia, gyda nifer o ddinasoedd Groegaidd adnabyddus megis Rhegion (Reggio Calabria), Sybaris, Kroton (Crotone), a Locri. Concrwyd yr ardal gan y Rhufeiniaid yn y 3 CC.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y rhanbarth boblogaeth o 1,959,050.[1]

Rhennir y rhanbarth yn bum talaith a enwir ar ôl eu canolfannau gweinyddol, sef:

Cyfeiriadau golygu
- ↑ City Population; adalwyd 23 Rhagfyr 2020