Castell (gwyddbwyll)

Ar ddechrau gêm wyddbwyll mae gan y chwaraewyr ddau Gastell yr un.

Symud Castell golygu

abcdefgh
88
77
66
55
44
33
22
11
abcdefgh
Symud Castell

Mae Castell yn symud mewn ffordd hawdd iawn i ddeall. Mae'n symud mewn llinell syth yn llorweddol neu'n fertigol. Gall symud ymlaen ac yn ôl. Mae'n ddarn pwerus ar y bwrdd Gwyddbwyll, ac yn gallu bod yn fwy pwerus fyth o'i gyfuno gyda darnau eraill.

Mae symudiad arall mae'r Castell yn rhan ohono, sef Castellu.

Defnyddio Castell golygu

Ffeiliau Agored a dyblu Cestyll golygu

 
Defnyddio Castell
 
Defnyddio Castell
 
Defnyddio Castell

Mae synnwyr cyffredin yn dweud bod darn sy'n rheoli llawer o sgwariau yn fwy pwerus nag un sy'n rheoli ychydig. Mae castell sy'n rheoli ffeil yn gallu bod yn bwerus iawn, ac os yw honno'n ffeil agored mae'n fwy pwerus fyth. Ystyr ffeil yw rhes o sgwariau fertigol, neu res tuag at eich gwrthwynebydd.

Yn y llun cyntaf mae Du'n symud y Castell i'r ffeil agored fel ei fod yn rheoli'r ffeil (neu linell) gyfan, ac yn yr ail mae'n gwneud hyn gyda'r Castell arall hefyd.

Yn y trydydd llun mae Du yn dyblu ei Gestyll ar y ffeil agored drwy symud Castell ochr y Frenhines draw, ei symud ymlaen sgwâr y symudiad nesaf, ac yna dod a Chastell ochr y Brenin y tu ôl iddo y symudiad wedyn.

Seithfed Reng golygu

 
Defnyddio Castell

Edrychwch ar y llun gyferbyn. Mae Gwyn wedi symud ei Gastell i'r ffeil agored, a gall Du ddim symud ei Gastell i'r ffeil hon hefyd neu bydd Castell Gwyn yn ei gymryd.

Mae symudiad nesaf Gwyn hefyd yn un da. Mae'n symud ei Gastell i'r 'seithfed reng', sef y rheng ble mae Gwerinwyr ei wrthwynebydd yn dechrau.

Nawr mae'n bygwth dau Werinwr Du, a dim ond un o'r rhain all Castell Du ei amddiffyn.

Mewn gêm iawn mwy na thebyg na fydd cymaint â hyn o Werinwyr yn dal ar y seithfed reng, ond mae rhoi Castell ar y seithfed reng yn egwyddor pwysig, gwerth ei gofio a'i weithredu.

Rheng Ôl golygu

 
Defnyddio Castell
 
Defnyddio Castell

Mae'r ddau lun gyferbyn yn dangos pa mor bwerus a pheryglus all Cestyll fod.

Yn yr un ar y chwith mae Gwyn yn cael Siachmat drwy symud ei Gastell i reng ôl Du. All Brenin Du ddim symud ac mae felly'n Siachmat!

Yn y llun ar y dde mae Gwyn wedi dyblu ei Gestyll, ac er fod Castell gan Ddu i amddiffyn y rheng ôl, mae ar ben arno gan bod dau Gastell Gwyn yn ei wynebu. Er bod modd iddo gipio Castell cyntaf Gwyn, mae'r ail yn ennill y gêm drwy gipio Castell Du - Siachmat!

Rhaid osgoi Siachmat rheng ôl drwy amddiffyn eich rheng ôl neu sicrhau bod lle i'r Brenin ddianc.

Castell yn rheoli neu gornelu Marchog golygu

 
Defnyddio Castell

Os gyrhaeddwch chi ran ola'r gêm a bod gennych chi Gastell yn erbyn Marchog eich gwrthwynebydd, mae modd i chi ddefnyddio'ch Castell i reoli Marchog.

Yn y llun gyferbyn mae'r Castell nid yn unig yn rheoli sgwariau pwysig (rhes a ffeil lawn), ond mae hefyd yn cadw'r marchog mas o'r gêm.

Fe welwch chi nifer o sefyllfaoedd tebyg os ewch chi ati i ddadansoddi gemau gan arbenigwyr.