Castell Abertawe
Castell Normanaidd ydyw Castell Abertawe (Cyfeirnod OS: SS 658 931) a sefydlwyd gan Henry de Beaumont yn 1106 fel caput Arglwyddiaeth Gŵyr.
Math | château, castell |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Castell |
Sir | Sir Abertawe |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 12.3 metr |
Cyfesurynnau | 51.6204°N 3.94111°W |
Rheolir gan | Cadw |
Perchnogaeth | Cadw |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | GM012 |
Hanes
golyguMae'n debyg i'r castell gwreiddiol fod yn lloc siap petryal ar lan ddwyreiniol Afon Tawe, wedi'i amgylchynu i'r gogledd, y gorllewin a'r de gan gastell mwnt a beili allanol. Mae'n debygol iddo gynnwys beili mewnol, ond cred rhai mai gwaith modrwyol oedd yno. Ymosodwyd ar y castell newydd gan y Cymry yn 1116 ond deliodd y castell mewnol. Ar ôl sawl ymosodiad dilwyddiant arall, disgynodd y castell yn 1217, ond dychwelodd e i berchnogaeth y Saeson yn 1220 fel rhan o gytundeb rhwng Llywelyn ap Iorwerth a Harri III. Yn fuan wedi hyn, mae'n debyg i wal garreg fewnol ag un tŵr o leiaf gael eu hadeiladu.
Yn ddiweddarach yn y 13g adeiladwyd mur yn lle'r beili allanol. Yr unig weddillion gweladwy yw dwy ochr y "castell newydd" petryal a adeiladwyd yng nghornel dde-ddwyreiniol y beili allanol tuag at ddiwedd y 13g neu ddechrau'r 14g. Mae'r ochr ddeheuol, sy'n dod i ben ar dŵr tal siap garderobe, wedi ei orffen gan gyfres o arcedau cain ar ben y wal, sy'n debyg i strwythurau llysoedd Esgob Tŷ Ddewi yn Llandyfái ac yn Nhyddewi. Erbyn hyn, roedd y castell wedi colli ei bwysigrwydd milwrol. Mae'n bosib i'r castell ddisgyn i ddwylo cefnogwyr Owain Glyndŵr yn nechrau'r 15g. Yn y 18fed a'r 19g, defnyddiwyd amryw rannau o'r castell fel marchnad, neuadd dref, neuadd ymarfer a charchar. Tynnwyd tu mewn y castell newydd i lawr yn y 20g yn ystod adeiladu swyddfa papur newydd.
Mynediad
golyguMae'r adfeilion erbyn heddiw wedi eu cryfhau a'u agor allan, fel bod modd eu gweld o'r stryd. Mae'r safle yn ngofal Cadw.
Ffynhonnell
golygu- B. Morris, Swansea Castle; RCAHMW, Glamorgan, Vol III, part (1b), The Later Castles (2000)