Castell Berkeley

castell yn Berkeley

Castell yn nhref Berkeley, Swydd Gaerloyw, De-orllewin Lloegr, yw Castell Berkeley. Mae'n dyddio'n ôl i'r 11g, ac mae wedi bod yn adeilad rhestredig Gradd I ers 1952.[1]

Castell Berkeley
Mathamgueddfa tŷ hanesyddol, castell, amgueddfa hanes Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolBerkeley
Sefydlwyd
  • 1067 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSwydd Gaerloyw
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Uwch y môr23 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.6886°N 2.4569°W Edit this on Wikidata
Cod OSST6851498984 Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I Edit this on Wikidata
Manylion

Castell mwnt a beili oedd y castell cyntaf yma, a adeiladwyd tua 1067 gan yr arglwydd Normanaidd William FitzOsbern yn fuan ar ôl y Goresgyniad Lloegr. Fe'i hailadeiladwyd gan Roger de Berkeley yn y 12g ac mae wedi aros ym mherchnogaeth y teulu Berkeley hyd heddiw.

Pan ddiorseddwyd Edward II, brenin Lloegr, gan ei wraig Isabelle o Ffrainc a'i chynghreiriad Roger Mortimer ym 1327, cafodd y brenin ei garcharu yn y castell. Fe'i llofruddiwyd yno ar 21 Medi 1327.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Berkeley Castle", Gwefan Historic England, adalwyd 25 Hydref 2020

Dolen allanol golygu