Castell Clun
Mae Castell Clun yn adeilad rhestredig Gradd II* sydd wedi ei leoli ar fryncyn yn edrych allan dros Fae Abertawe, gyferbyn â Dyffryn Clun a ger Blackpill, Abertawe.
![]() | |
Math | tŷ ![]() |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Y Mwmbwls ![]() |
Sir | Sir Abertawe |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 40 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 51.5974°N 4.00246°W ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II* ![]() |
Manylion | |
Yn wreiddiol, cafodd ei adeiladu ym 1791 gan Richard Phillips, tirfeddiannwr cefnog o Sir Gaerfyrddin. Yn ddiweddarach, ail-fodelwyd y castell gan berchnogion newydd. Defnyddiodd Prifysgol Abertawe y Castell fel neuaddau preswyl (Neuadd Gilbertson) ar ôl iddynt ei brynu yn ystod y 1950au. Adeiladodd y Brifysgol ddau floc preswyl newydd, ac yn hwyrach, neuadd i fenywod (Neuadd Martin), gyda golygfeydd o'r môr, ar y bryn tu ôl y castell.
Prynodd Dinas Abertawe barc aeddfed y Castell, a elwir bellach yn Gerddi Clun, sydd â golygfeydd dros y bae.
Yn 2003, penderfynodd y brifysgol werthu'r neuaddau ac i adeiladu mwy o neuaddau preswyl ar gampws y brifysgol yn lle. Ar hyn o bryd, mae'r castell wedu cael ei foderneiddio i gyfres o fflatiau moethus un a dwy ystafell wely.