Castell Cynfael
Castell mwnt a beili yn ne-orllewin teyrnas Gwynedd oedd Castell Cynfael. Gorweddai yng nghwmwd Ystumanner yng nghantref Meirionnydd (de Gwynedd heddiw), tua milltir a hanner i'r gogledd-ddwyrain o Dywyn. Safodd am lai na blwyddyn.
Math | castell mwnt a beili |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.594493°N 4.046294°W |
Cod OS | SH6149901610 |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | ME121 |
Codwyd y castell gan Cadwaladr ap Gruffudd ap Cynan, brawd Owain Gwynedd, yn 1147. Safai mewn sefyllfa cryf ar gribyn yn edrych dros Ddyffryn Dysynni. Rhoddodd Cadwaladr ei gastell yng ngofal Morfran, abad clas Tywyn, yn yr un flwyddyn.
Roedd y berthynas rhwng Cadwaladr a'i frawd Owain, brenin Gwynedd, wedi gwaethygu ers 1143 pan ddechreuodd y brenin ddrwgdybio ei frawd o fod â llaw yn llofruddiaeth Anarawd, brawd ei gynghreiriad Rhys ap Gruffudd (Yr Arglwydd Rhys), yn 1143. Yn 1147, penderfynnodd Hywel ab Owain Gwynedd a'i frawd Cynan, meibion y brenin Owain, wneud cyrch ar Feirionnydd i ddysgu gwers i Gadwaladr. Ymosodasant ar y castell a chafwyd brwydr ffyrnig, gyda Hywel yn ymosod arno o'r gogledd a Chynan o'r de. Gwrthododd Morfran ildio ac yn y diwedd llosgwyd y castell yn ulw.
Roedd Hywel ab Owain Gwynedd yn fardd mawr yn ogystal â bod yn dywysog, ond ni cheir cerdd ganddo am ei fuddugoliaeth ymhlith y rhai sydd ar glawr heddiw. Ond cyfansoddodd ei gyd-fardd Cynddelw Brydydd Mawr awdl i Owain sy'n disgrifio'r ymosodiad a'r gorthwr yn disgyn i'r fflamiau.
Mae'r mwnt sy'n nodi safle'r castell bellach ar dir preifat sy'n perthyn i fferm Bryn y Castell, ger Tywyn.
Llyfryddiaeth
golygu- Paul R. Davis, Castles of the Welsh Princes (Abertawe, 1988)