Meirionnydd (cantref)

Cantref yn ne teyrnas Gwynedd oedd Meirionnydd. Roedd yn gorwedd rhwng Afon Mawddach yn y gogledd ac Afon Dyfi yn y de ar lan Bae Ceredigion. O'r de i'r gogledd ymestynnai o Aberdyfi i fryniau'r Rhobell Fawr (i'r gogledd o dref Dolgellau heddiw. Ffiniai â chantrefi Ardudwy a Phenllyn i'r gogledd, cwmwd Mawddwy a chantref Cyfeiliog yn nheyrnas Powys i'r dwyrain a Genau'r Glyn, Ceredigion dros aber Afon Dyfi i'r de.

Meirionnydd
Mathgwlad ar un adeg, petty kingdom, vassal state Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 5 g Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.758°N 3.835°W Edit this on Wikidata
Map
Mae hon yn erthygl am y cantref canoloesol: gweler hefyd Meirionnydd.

Fe'i rhennid yn ddau gwmwd: Tal-y-bont yn y gogledd ac Ystumanner yn y de. Cantref mynyddig ydoedd, gyda dyffrynnoedd hir yn rhedeg ar o'r de-orllewin i'r gogledd-ddwyrain a chymoedd anghysbell.

Dynodai Afon Mawddach y ffin rhwng cantref Meirionnydd ac Ardudwy

Hanes golygu

Yn ôl traddodiad enwyd y cantref ar ôl Meirion ap Tybion, ŵyr Cunedda. Cofnodir yr enw Cantref Orddwy fel enw ar yr ardal hefyd (o enw'r llwyth Celtaidd yr Ordoficiaid efallai). Roedd yn deyrnas annibynnol i bob pwrpas hyd at y nawfed ganrif pan roedd ym meddiant pennaeth o'r enw Cynan ap Brochwel yn 870. Daeth yn rhan o Wynedd ym 1063 ar farwolaeth Gruffudd ap Llywelyn, brenin Cymru. Bu ym meddiant teyrnas Powys wedyn tan 1123. O 1147 ymlaen roedd yn cael ei thrin fel math o atodiad i dir Gwynedd gan Cynan ab Owain Gwynedd a'i ddisgynyddion. Ar ddechrau'r 13g roedd yn cael ei reoli gan Gruffudd ap Llywelyn Fawr ar ran ei dad. Codwyd Castell y Bere gan Llywelyn Fawr yn Ystumanner, wrth droed Cader Idris, ym 1221, a daeth y cantref yn rhan o bura Wynedd eto. Wnaeth arglwydd Meirionnydd, Llywelyn ap Maredudd, fwynhau cyfnod byr o led-annibyniaeth yn ystod teyrnasiad Dafydd ap Llywelyn yng Ngwynedd, ond daeth ef o dan reolaeth Llywelyn Ein Llyw Olaf ym 1256. Yn 1284, o ganlyniad i Statud Rhuddlan, cafodd y cantref ei uno â Phenllyn, Ardudwy ac Edeirnion i ffurfio'r sir newydd Sir Feirionnydd.

Roedd Meirionnydd yn nodedig yn ystod yr oesoedd canol diweddar fel lleoliad di-gyfraith - digwyddodd y gwrthryfel olaf yn hanes Cymru yno yn 1498, pan gafodd Castell Harlech ei gipio am y tro olaf gan lu o Gymry.

Brenhinoedd Meirionnydd golygu

Gweler hefyd golygu

Llyfryddiaeth golygu

  • Geraint Bowen (gol.), Atlas Meirionnydd (Y Bala, 1975)