Castell Sain Dunwyd

castell yn Sain Dunwyd, Bro Morgannwg

Castell canoloesol yn Sain Dunwyd, Bro Morgannwg, Cymru, yw Castell Sain Dunwyd (Saesneg: St Donat's Castle). Mae'n adeilad rhestredig Gradd I.[1] Saif tua 16 milltir (26 km) i'r gorllewin o Gaerdydd, a thua 1.5 milltir (2.4 km) i'r gorllewin o Lanilltud Fawr.

Castell Sain Dunwyd
Mathcastell Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolYstâd St. Donat's Castle Edit this on Wikidata
LleoliadSain Dunwyd Edit this on Wikidata
SirBro Morgannwg
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr31 metr, 39.9 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.402°N 3.53338°W Edit this on Wikidata
Map
PerchnogaethColegau Unedig y Byd, teulu Mansel Edit this on Wikidata
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I Edit this on Wikidata
Manylion

Fe'i lleolir ar glogwyni sy'n edrych dros Fôr Hafren ar safle lle mae pobl wedi bod yn byw ers Oes yr Haearn, ac yn ôl traddodiad lle gwnaeth Caradog, y pennaeth Celtaidd, ei gartref.

Mae gwreiddiau'r castell presennol yn dyddio o'r 12g, pan ddechreuodd y teulu de Hawey ac yn ddiweddarach Peter de Stradling ei ddatblygiad. Roedd y Stradlings yn berchnogion y castell am 400 mlynedd, hyd at farwolaeth Syr Thomas Stradling mewn ornest (duel) ym 1738.

Dirywiodd cyflwr y castell yn ystod y 18g. Fe'i hadferwyd sawl gwaith yn ystod y 19g a dechrau'r 20g. Ond fe'i trawsnewidiwyd yn llwyr ar ôl iddo gael ei brynu ym 1925 gan William Randolph Hearst, y cyhoeddwr papur newydd mwyaf pwerus yn America. Roedd ehangiad dadleol Hearst yn cynnwys ymgorffori rhannau o strwythurau hynafol eraill fel y toeau o Briordy Bradenstoke, Wiltshire, ac Eglwys Sant Botolph, Boston, Swydd Lincoln; trefnodd y Society for the Protection of Ancient Buildings ymgyrch egnïol yn erbyn yr addasiadau.[2]

Er iddo wario symiau enfawr ar y castell, ac weithiau byddai'n cynnal partïon moethus ar gyfer ymwelwyr fel Charlie Chaplin, Errol Flynn, David Lloyd George a John F. Kennedy, anaml yr ymwelodd Hearst â'r lle, ac ym 1937, pan oedd Corfforaeth Hearst yn wynebu cwymp ariannol, rhoddodd ar werth. Ym 1960, rhyw naw mlynedd ar ôl marwolaeth Hearst, fe’i prynwyd gan fab y dyn busnes a’r dyngarwr addysgol Antonin Besse a’i roi i ymddiriedolwyr Coleg yr Iwerydd, y cyntaf o Golegau Unedig y Byd.

Cyfeiriadau golygu

  1. "St Donats Castle, St Donats", Gwefan Coflein; adalwyd 6 Mawrth 2020
  2. Hall, Michael (2015). George Frederick Bodley and the later Gothic Revival in Britain and America. New Haven, US and London: Yale University Press. t. 350. ISBN 9780300208023. OCLC 983761471. (Saesneg)