Castell yr Wyddgrug
Castell mwnt a beili yn yr Wyddgrug, sir y Fflint, gogledd-ddwyrain Cymru, yw Castell yr Wyddgrug (Saesneg: Mold Castle); cyfeiriad grid SJ235643.
Math | adfeilion castell, castell mwnt a beili |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Yr Wyddgrug |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.171018°N 3.145285°W |
Cod OS | SJ2351964333 |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | FL014 |
Saif ar Fryn y Beili ger canol y dref, yn agos at eglwys blwyf o'r 15g, Eglwys y Santes Fair [1]. Adeiladwyd y castell tua 1072 yn ôl pob tebyg gan Robert de Montalt. Does fawr ar ôl o'r castell, heblaw y twmpath yr adeiladwyd y mwnt arno.
Hanes
golyguAdnabyddir safle'r castell fel Bryn y Beili, sy'n ardd gyhoeddus bellach yng nghanol yr Wyddgrug.
Codwyd caer mwnt a beili tua 1072 ar gloddwaith a oedd yn bodoli eisoes, o bosibl gan Robert de Montalt, disgynnydd o Eustace De Monte Alto, rhyfelwr Normanaidd yng ngwasanaeth Hugh Lupus, Iarll Caer. Roedd y teulu yn wreiddiol o Monthault, Ille-et-Vilaine, yn Nugiaeth Llydaw (pryd hynny doedd y ddugiaeth ddim yn rhan o Ffrainc.) Mae'n bosib bod y teulu yn cymryd eu henw o 'mont haut', sy'n golygu 'bryn uchel'.[2] Efallai bod yr enw 'mont haut' yn newid dros y blynyddoedd, nes iddo ddod yn 'Mold'. Felly mae'n bosib bod Bryn y Beili wedi rhoi ei henw i'r dref.
Ym 1146 cipiwyd y castell gan Owain Gwynedd.[3] Ym 1245, cafodd ei ail-gipio gan y Tywysog Dafydd ap Llywelyn. Cynhelid llys ar gylch ei frawd Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru, yn y Wyddgrug ar 22 Gorffennaf, 1273. Er nad oes prawf, mae'n bosibl mai yng nghastell Bryn y Beili y bu hynny.
Roedd y castell o dan reolaeth y Cymry am amser hir yn ystod teyrnasiad Llywelyn ab Iorwerth a parhaodd yn strwythur amddiffynnol hyd at y 13eg ganrif. Yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr, cipiwyd yr Wyddgrug gan y Seneddwyr, adenillwyd gan y Brenhinwyr a syrthiodd eto i luoedd Cromwell.[1]
Y safle
golyguDaeth y safle i feddiant teulu Mostyn ac yn 1790 fe wnaethon nhw ei amgylchynu â wal gerrig, plannu coed a'i drawsnewid yn ardd. Yn 1890 cafodd y safle ei werthu i Gyngor yr Wyddgrug. Roedd safle'r castell yn ymgorffori gardd goffa i anrhydeddu milwyr yr Wyddgrug a syrthiodd yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
Adferwyd y parc dros nifer o flynyddoedd, gan gynnwys adeiladu rampiau, creu gofod perfformio yn y beili mewnol, ac adeiladu canolfan ddehongli; mae'r safle i fod i ailagor ym mis Ebrill 2022.[4] Yn ystod y gwaith, yn 2020 datgelodd cloddiadau gan Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd-Powys weddillion wal gerrig fawr ar ymyl y beili mewnol, a allai fod wedi bod yn rhan o’r amddiffynfeydd neu adeilad mewnol [5]. Mae'r cloddiadau'n awgrymu efallai mai pren oedd y castell gwreiddiol.[4]
Cofrestrwyd Castell yr Wyddgrug yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru gyda'r rhif NPRN 307119.[6]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Ross, David. "Mold Castle". Britain Express. Cyrchwyd 7 April 2016.
- ↑ Nicholas, Thomas (2000). Annals and Antiquities of the Counties and County Families of Wales. Genealogical Publishing. t. 436. ISBN 978-0-8063-1314-6.
- ↑ "History of Bailey Hill, Mold, celebrated with a picnic". BBC. 30 April 2010.
- ↑ 4.0 4.1 "Mold's Bailey Hill restored after £1.8m project". BBC News. 6 March 2022.
- ↑ "Medieval Discovery on Mold's Bailey Hill". 9 August 2020.
- ↑ "Castell Yr Wyddgrug; Bryn Y Beili | Coflein".