Hugh d'Avranches, Iarll 1af Caer
Iarll cyntaf Caer oedd Hugh d'Avranches (Ffrangeg Normanaidd: Hugues d'Avranches) (bu farw 27 Gorffennaf 1101), a elwid hefyd Huw Flaidd (Hugues le Loup) a Huw Fras (Hugues Goz). Roedd yn un o uchelwyr pwysicaf Lloegr yn dilyn y Goncwest Normanaidd.
Hugh d'Avranches, Iarll 1af Caer | |
---|---|
Ganwyd | c. 1047 Dugiaeth Normandi |
Bu farw | 27 Gorffennaf 1101 St Werburgh's Abbey, Chester |
Dinasyddiaeth | Dugiaeth Normandi, Teyrnas Lloegr |
Tad | Richard Goz |
Priod | Ermentrude o Claremont |
Plant | Richard d'Avranches, Robert D'avranches, Otuel D'avranches, Giofu D'avranches, Matilda, Geva o Gaer |
Hanes
golyguRoedd yn fab i Richard Goz, Vicomte d'Avranches, yn ne-orllewin Normandi, ac etifeddodd diroedd helaeth oddi wrth ei dad. Daeth yn un o gynghorwyr pwysicaf Wiliam, dug Normandi, a chyfrannodd 60 llong i ymgyrch Wiliam yn erbyn Lloegr yn 1066, er na chroesodd ef i Loegr.
Wedi i Wiliam goncro Loegr, gwnaed Hugh yn Iarll Caer yn 1070. Bu ef a'i gefnder, Robert o Ruddlan, yn ymladd yn erbyn y Cymry. Yn 1081 cipiodd y ddau frenin Gwynedd, Gruffudd ap Cynan, trwy frad mewn cyfarfod ger Corwen. Carcharwyd Gruffudd gan Hugh yng Nghaer, tra cymerodd Robert feddiant ar Wynedd. Pan laddwyd Robert gan y Cymry yn 1088, cymerodd Hugh ei diroedd. Llwyddodd Gruffudd ap Cynan i ddianc o Gaer, ac yn 1094, collodd Hugh y rhan fwyaf o'i diroedd yng Ngwynedd i'r Cymry.
Yn 1098, ymunodd Hugh a Hugh, Iarll Amwythig i geisio adennill Gwynedd, ond bu raid i'r Normaniaid encilio wedi i Iarll Amwythig gael ei ladd gan Magnus III, brenin Norwy mewn brwydr ar Afon Menai. Olynwyd Hugh fel Iarll Caer gan ei fab, Richard.