Eglwys y Santes Fair, yr Wyddgrug
Eglwys ac adeilad rhestredig Gradd I o'r 16g yn yr Wyddgrug, Sir y Fflint, yw Eglwys y Santes Fair, yr Wyddgrug.[1] Mae'r plwyf yn rhan o Esgobaeth Llanelwy.
![]() Eglwys y Santes Fair, yr Wyddgrug | |
Math | eglwys ![]() |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Yr Wyddgrug ![]() |
Sir | Yr Wyddgrug ![]() |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 127 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 53.1691°N 3.14293°W ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I ![]() |
Cysegrwyd i | y Forwyn Fair ![]() |
Manylion | |
Esgobaeth | Esgobaeth Llanelwy ![]() |
Dyma un o'r gyfres o eglwysi "Stanley" a ailadeiladwyd tua 1500 dan nawdd Margaret Beaufort, Iarlles Richmond a Derby. Eglwysi eraill y gyfres yng Ngogledd Cymru yw Eglwys yr Holl Saint, Gresffordd, Eglwys y Santes Eurgain a Sant Paul, Llaneurgain, Eglwys San Silyn, Wrecsam a Capel Wenffrewi, Treffynnon. Bu farw Margaret ym 1509 ac ni chwblhawyd corff ac eiliau yr eglwys tan tua 1550.[2]
Mae'r rhan fwyaf o'r eglwys yn arddull Berpendicwlar, er bod drws mewnol porth y de yn Elisabethaidd. Disodlwyd twr y gorllewin rhwng 1768 a 1773 gan y pensaer Joseph Turner. Gwnaeth Syr George Gilbert Scott waith adfer sylweddol ym 1853-6, a gwnaed mwy o waith adfer yn ystod y 20g.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "St Mary's Church, Mold", Gwefan Coflein; adalwyd 5 Mawrth 2020
- ↑ "The History of St Mary’s" Archifwyd 2017-10-18 yn y Peiriant Wayback., Gwefan The Parish of Mold; adalwyd 5 Mawrth 2020
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Church Heritage Cymru