Catheiniog
cwmwd canoloesol yn gorwedd yn Y Cantref Mawr yn Ystrad Tywi, de-orllewin Cymru
Cwmwd canoloesol yn gorwedd yn Y Cantref Mawr yn Ystrad Tywi, de-orllewin Cymru, oedd Catheiniog (sillafiad amgen: Cetheiniog). Roedd yn rhan o deyrnas Deheubarth ac yn ddiweddarach daeth yn rhan o Sir Gaerfyrddin.
Math |
cwmwd ![]() |
---|---|
| |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol |
Teyrnas Deheubarth ![]() |
Sir |
Sir Gaerfyrddin ![]() |
Gwlad |
![]() |
Gerllaw |
Afon Tywi ![]() |
Yn ffinio gyda |
Gwidigada, Mabudrud, Mabelfyw, Caeo, Maenor Deilo ![]() |
Cyfesurynnau |
51.8808°N 4.062°W ![]() |
![]() | |
Gorweddai cwmwd Catheiniog yn rhan ddeheuol y Cantref Mawr, ar y ffin rhwng y cantref hwnnw â'r Cantref Bychan, i'r de. Ffiniai â chymydau Gwidigada, Mabudrud, Mabelfyw, Caeo a Maenor Deilo yn y Cantref Mawr, ac â chwmwd Is Cennen i'r de yn y Cantref Bychan.
Gorweddai ar lan ogleddol Afon Tywi. Roedd yn cynnwys safle Castell y Dryslwyn, un o amddiffynfeydd mawr tywysogion Deheubarth. Yma hefyd roedd Llangathen, un o ganolfannau eglwysig pwysicaf Deheubarth, a gysylltir â Sant Cathen.