Cathen
sant Celtaidd
Sant Cymreig oedd Cathen (weithiau Cathan) (fl. diwedd y 6g).[1] Dethlir ei ddydd gŵyl ar 17 Mai.
Cathen | |
---|---|
Dinasyddiaeth |
![]() |
Blodeuodd |
6G ![]() |
Dydd gŵyl |
17 Mai ![]() |
Tad |
Cawrdaf mab Caradog Freichfras ![]() |
BywgraffiadGolygu
Yn ôl yr achau, roedd yn fab i Gawrdaf fab Caradog Freichfras. Ei frodyr oedd y seintiau Medrod (ni ddylir ei gymysgu â'r Medrawd Arthuraidd) ac Iddon.[1]
Sefydlodd llan, yn Llangathen, Sir Gaerfyrddin. Ceir Ffynnon Garthen ar fferm yn y plwyf hwnnw. Yn ôl rhai ffynonellau cafodd ei gladdu ar Ynys Bŷr, sy'n awgrymu fod ganddo gysylltiad â'r fynachlog gynnar yno.[1]