Llangathen

pentref yn Sir Gaerfyrddin

Pentref a chymuned yn Sir Gaerfyrddin, Cymru, yw Llangathen. Saif ychydig i'r gorllewon o dref Llandeilo, ac i'r de o'r briffordd A40 rhwng Llandeilo a Chaerfyrddin. Mae Afon Tywi ychydig i'r de o'r pentref. Bu pobl yn byw yn yr ardal ers o leiaf Oes yr Haearn, ond datblygodd pentref Llangathen ei hun o dan nawdd teulu Phillipse o Aberglasney yn ystod y 19g.

Llangathen
Mathcymuned, pentref Edit this on Wikidata
Poblogaeth507 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Gaerfyrddin Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd2,310.99 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.8833°N 4.05°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000528 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auAdam Price (Plaid Cymru)
AS/auJonathan Edwards (Annibynnol)
Map

Gerllaw mae gerddi enwog Aberglasney, ac ychydig i'r dwyrain mae Castell Dinefwr.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Adam Price (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Jonathan Edwards (Annibynnol).[2]

Eglwys Sant Cathen golygu

Dyddia'r eglwys, sy'n gysegredig i Sant Cathen, o tua 13c ac fe'i ehangwyd ganrif yn ddiweddarach drwy ychwanegu'r croesfâu. Codwyd y tŵr gorllewinol naill ai yn 15c neu'r 16c. Adnewyddwyr yr eglwys hefyd yn 1813-15 (to newydd) ac yn 1868.

Ceir cofeb nodedig i'r Esgob Anthony Rudd o Dyddewi ynddi, sy'n dyddio o ddechrau'r 17g.[3] Arferai'r esgob fyw yn Aberglasney.

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6][7]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llangathen (pob oed) (507)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llangathen) (257)
  
51.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llangathen) (331)
  
65.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Llangathen) (70)
  
31.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan Senedd Cymru
  2. Gwefan Senedd y DU
  3. britishlistedbuildings.co.uk; adalwyd 12 Mawrth 2018.
  4. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  6. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  7. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]

Dolenni allanol golygu