Gwleidydd y Blaid Lafur Brydeinig yw Catherine Ann Fookes (ganwyd Hydref 1970)[1] a etholwyd yn Aelod Seneddol (AS) dros etholaeth Gymreig Sir Fynwy, yn etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig a gynhaliwyd ar 4 Gorffennaf 2024 .

Catherine Fookes
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 59ain Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata

Cyn cael ei ethol, bu Fookes yn brif weithredwr Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru ac yn gadeirydd y felin drafod Gymreig, Fabians Cymru.[2]

Mae hi wedi byw yn Sir Fynwy dros ddau ddegawd.[3] Roedd hi'n gynghorydd sir Fynwy dros Trefynwy, ac wedi rhannu'r portffolio cydraddoldeb ac ymgysylltu. Ymddiswyddodd ei swyddi yn 2023 ar ôl cael ei dewis fel ymgeisydd seneddol Llafur ar gyfer etholiad cyffredinol.[4]

Ym mis Gorffennaf 2024, etholwyd Fookes yn AS San Steffan dros Sir Fynwy, gan drechu cyn Ysgrifennydd Gwladol Cymru David T. C. Davies.[2] Hi yw AS benywaidd cyntaf Sir Fynwy.[5]

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Catherine Ann Fookes". gov.uk. Cyrchwyd 6 Gorffennaf 2024.
  2. 2.0 2.1 Owen, Twm (5 Gorffennaf 2024). "General election 2024: Labour win in Monmouthshire". South Wales Argus (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-07-05.
  3. "Pwy yw aelodau seneddol newydd Cymru?". BBC Cymru Fyw. Cyrchwyd 6 Gorffennaf 2024.
  4. Owen, Twm (17 Mai 2023). "Monmouthshire cabinet: Catherine Fookes and Tudor Thomas out". South Wales Argus (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-07-04.
  5. "Catherine Fookes ousts Tory David T C Davies in dramatic election victory". Monmouthshire Beacon (yn Saesneg). 5 Gorffennaf 2024. Cyrchwyd 6 Gorffennaf 2024.