Cyngor Sir Fynwy
Cyngor Sir Fynwy (Saesneg: Monmouthshire County Council) yw'r corff awdurdod llywodraeth leol sy'n gweinyddu Sir Fynwy yn ne-ddwyrain Cymru. Crëwyd y cyngor sir presennol pan ad-drefnwyd llywodraeth leol yng Nghymru yn 1996. Lleolir pencadlys y cyngor ym Mrynbuga.
Enghraifft o: | awdurdod unedol yng Nghymru ![]() |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1 Ebrill 1996 ![]() |
Aelod o'r canlynol | Cydbwyllgor Archifau Gwent ![]() |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |
Rhanbarth | Cymru ![]() |
Gwefan | https://www.monmouthshire.gov.uk/ ![]() |
![]() |
Ers Mai 2012, arweinir y cyngor gan Peter Fox (Ceidwadwr), gyda Robert Greenland (Ceidwadwr) a Phylip Hobson (Democrat Rhyddfrydol) fel Dirpwy Arweinwyr. Paul Matthews yw'r Prif Weithredwr.