Agor y brif ddewislen

Daeth swydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru i fodolaeth ym mis Hydref 1964, a Jim Griffiths, Aelod Seneddol Llanelli oedd y cyntaf i'w llenwi. Penderfynodd llywodraeth San Steffan alluogi'r Ysgrifennydd i reoli gwariant ar ambell wasanaeth cyhoeddus a fu gynt o dan reolaeth adrannau eraill. Sefydlwyd y Swyddfa Gymreig ym mis Ebrill 1965.

Cymru
Flag of Wales (1959–present).svg

Mae'r erthygl hon yn rhan o'r gyfres ar:
wleidyddiaeth a llywodraeth
Cymru



gweld  sgwrs  golygu

Yn ystod y 1980au a'r 1990au llywodraeth Geidwadol oedd mewn grym yn San Steffan. O 1987 tan 1997 roedd yr ysgrifenyddion i gyd yn cynrychioli seddau o tu allan i Gymru oherwydd diffyg cynrychiolaeth y Toriaid yng Nghymru - 1987 - 8 aelod, ac 1992 - 6 aelod.

Yn dilyn sefydliad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, daeth newid mawr yn rôl yr Ysgrifennydd Gwladol, gan fod y rhan fwyaf o'i swyddogaethau bellach yn nwylo'r corff newydd. Diddymwyd y Swyddfa Gymreig, ond cadwyd swydd yr ysgrifennydd gwladol, gan ei wneud yn bennaeth ar swyddfa newydd, Swyddfa Cymru.

O dan Ddeddf Llywodraeth Cymru (1998) gall Ysgrifennydd Gwladol Cymru fynychu sesiynau Cynulliad Cenedlaethol Cymru a siarad ynddynt yn ogystal â chael arian o'r Senedd. Fodd bynnag, mae'n gorfod trosglwyddo hynny i'r Cynlliad Cenedlaethol, heblaw am yr arian sydd yn angenrheidiol i redeg ei swyddfa ei hun. Mae'n rhaid iddo ymgynghori â'r Cynulliad dros raglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth hefyd.

Dalwyr y swyddGolygu

Cafwyd 16 Ysgrifennydd Gwladol, gyda 3 ohonynt (David Hunt, Paul Murphy a Peter Hain) wedi eu penodi i'r swydd ar fwy nag un achlysur. Mae pedwar ohonynt, sef yr Arglwydd Morris o Aberafan (John Morris), Nicholas Edwards, Barwn Crughywel, Ron Davies, a’r Barwn Cledwyn o Benrhos (Cledwyn Hughes) wedi traddodi darlith flynyddol Archif Wleidyddol Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Peter Thomas, y Ceidwadwr cyntaf yn y swydd, oedd yr Ysgrifennydd Gwladol cyntaf i gynrychioli sedd y tu allan i Gymru.[1]

Mae nifer o Ysgrifenyddion Gwladol hefyd wedi dal swyddi dylanwadol eraill: daeth Is-iarll Tonypandy (George Thomas) yn Llefarydd Tŷ’r Cyffredin, daeth William Hague yn Arweinydd y Ceidwadwyr a daeth Alun Michael yn Brif Ysgrifennydd cyntaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Enw Tymor yn y swydd Plaid wleidyddol Gwlad enedigol Etholaeth Gymreig Prif Weinidog
Jim Griffiths   18 Hydref 1964 5 Ebrill 1966 Llafur Cymru Llanelli Harold Wilson
Cledwyn Hughes   5 Ebrill 1966 5 Ebrill 1968 Llafur Cymru Ynys Môn
George Thomas   5 Ebrill 1968 20 Mehefin 1970 Llafur Cymru Gorllewin Caerdydd
Peter Thomas   20 Mehefin 1970 5 Mawrth 1974 Ceidwadwyr Cymru Na[2] Edward Heath
John Morris   5 Mawrth 1974 5 Mai 1979 Llafur Cymru Aberafon Harold Wilson
James Callaghan
Nicholas Edwards   5 Mai 1979 13 Mehefin 1987 Ceidwadwyr Lloegr Pembrokeshire Margaret Thatcher
Peter Walker   13 Mehefin 1987 4 Mai 1990 Ceidwadwyr Lloegr Na
David Hunt   4 Mai 1990 27 Mai 1993 Ceidwadwyr Cymru Na John Major
John Redwood   27 Mai 1993 26 Mehefin 1995[3] Ceidwadwyr Lloegr Na
David Hunt
(acting[3])
  26 Mehefin 1995 5 Gorffennaf 1995 Ceidwadwyr Cymru Na
William Hague   5 Gorffennaf 1995 3 Mai 1997 Ceidwadwyr Lloegr Na
Ron Davies   3 Mai 1997 27 Hydref 1998[4] Llafur Cymru Caerffili Tony Blair
Alun Michael   27 Hydref 1998 28 Gorffennaf 1999[5] Llafur Cymru De Caerdydd a Phenarth
Paul Murphy   28 Gorffennaf 1999 24 Hydref 2002 Llafur Cymru Torfaen
Peter Hain   24 Hydref 2002 24 Ionawr 2008 Llafur Cenia Castell-nedd
Gordon Brown
Paul Murphy   24 Ionawr 2008 5 Mehefin 2009 Llafur Cymru Torfaen
Peter Hain   5 Mehefin 2009 11 Mai 2010 Llafur Cenia Castell-nedd
Cheryl Gillan   11 Mai 2010 4 Medi 2012 Ceidwadwyr Cymru Na David Cameron
(Clymblaid)
David Jones   4 Medi 2012 14 Gorffennaf 2014 Ceidwadwyr Lloegr Gorllewin Clwyd
Stephen Crabb   15 Gorffennaf 2014 19 Mawrth 2016 Ceidwadwyr Yr Alban Preseli Penfro
David Cameron
(Ail gabinet)
Alun Cairns   19 Mawrth 2016 Presennol Ceidwadwyr Cymru Bro Morgannwg

NodiadauGolygu

1 AS yn flaenorol dros Sir Benfro, ond yn cynrychioli etholaeth yn Lloegr tra yn y swydd.

2 AS yn flaenorol dros Gonwy, ond yn cynrychioli etholaeth yn Lloegr tra yn y swydd.

3 Ymddiswyddodd Redwood i sefyll yn etholiad arweinydd y Ceidwadwyr yn 1995. Yn ystod yr etholiad, gweithredodd Hunt fel y Ysgrifennydd Gwladol.

4 Ymddiswyddodd ar ôl "moment o wallgofrwydd" ar Clapham Common.

5 Yn dilyn Deddf Llywodraeth Cymru 1998, daliodd y swydd fel Prif Weinidog cyntaf cymru o 12 Mai 1999.

Dileu'r swyddGolygu

Mae dyfodol y swydd wedi cael ei gwestiynu nifer o weithiau ers dyfodiad datganoli. Galwyd am ddileu’r swydd gan 'Uned y Cyfansoddiad' yn 2001, a gan yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, cyn Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol yn 2011. Yn ei ddarlith yn 2013, galwodd yr Arglwyd Morris am ddileu’r swydd gan fod y rhan fwyaf o’r dyletswyddau wedi cael eu trosglwyddo i’r Cynulliad gan ddweud. Dywedodd:

Y pumed olwyn yn y goets seneddol ydyw bodolaeth Ysgrifennydd Gwladol yn yr Alban a Chymru. Mae dau is-weinidog yn Swyddfa Cymru, un yn Nhŷ’r Cyffredin ac un newydd sbon am y tro cyntaf erioed yn Nhŷ’r Arglwyddi. Beth yn y byd y maent yn ei wneud o ddydd i ddydd, Duw a ŵyr!”

CyfeiriadauGolygu