Catherine Glyn Davies

hanesydd athroniaeth ac ieithyddiaeth, a chyfieithydd

Hanesydd, ieithydd ac athronydd o Gymru oedd Catherine "Caryl" Glyn Davies (née Catherine Glyn Jones; 26 Medi 192622 Chwefror 2007); roedd hefyd yn gyfieithydd.

Catherine Glyn Davies
Ganwyd26 Medi 1926 Edit this on Wikidata
Trealaw Edit this on Wikidata
Bu farw22 Chwefror 2007 Edit this on Wikidata
Aberystwyth Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethhanesydd, cyfieithydd, athronydd Edit this on Wikidata

Ganwyd Catherine Glyn Jones yn Nhrealaw, Morgannwg, ar 26 Medi 1926. Priododd ei rhieni yn 1925: gweinidog oedd ei thad, William Glyn Jones (1883-1958), a Catherine oedd y plentyn hynaf; roedd ganddi frawd a dwy chwaer. Mabel (née Williams Lloyd, g. 1897) oedd ei mam.[1]

Wedi cyfnod yn ysgol sir y Porth derbyniodd Radd Dosbarth Cyntaf mewn Ffrangeg mewn athroniaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth a gradd Meistr yn 1949 am waith ar A critical study of John Locke's examination of Père Malebranche's opinion of seeing all things in God. Treuliodd flwyddyn yn Sorbonne ym Mharis wedi iddi ennill ysgoloriaeth deithiol Kemsley gan Brifysgol Cymru. Yn ystod y cyfnod hwn astudiodd y berthynas rhwng Ffrainc a Lloegr yn niwedd y 1600au - yn Sorbonne - cyn ymuno â chwrs yng Ngholeg Somerville, Rhydychen lle ysgrifennodd draethawd o'r enw The influence of John Locke on literature and thought in eighteenth century France: a study of Locke's influence on the development of the theory of knowledge in France between 1734 and 1748 - a hynny yn 1954.[1] Roedd y gwaith hwn yn rhan o'i Doethuriaieth.[2]

Priodi

golygu

Yn Sorbonne, cyfarfu â Gareth Alban Davies (1926-2009) a phriododd y ddau yn 1952 ac er mai yn Otley, Swydd Efrog, y magwyd eu pedwar plentyn, Eleri, Rhodri, Catrin a Gwen, Cymraeg oedd iaith y cartref. Gyda'i gŵr cyfieithodd nofel André Gide La Symphonie pastorale dan y teitl 'Y Deillion' (1965). Treuliodd y teulu dri-deg mlynedd yn Otley, Swydd Efrog.[1]

Dychwelyd i Gymru

golygu

Yn 1986 ymddeolodd ei gŵr o'r gadair Sbaeneg yn Leeds a symudodd y teulu i Flaenpant, hen ysgoldy ger Llangwyryfon, Ceredigion, lle y byddent yn arfer treulio gwyliau gan ei fod yn agos at Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Dyfarnwyd PhD i Catherine (neu 'Caryl') gan Brifysgol Leeds yn 1989 am draethawd a gyhoeddodd yn 1990. Yn Conscience as Consciousness: the idea of self-awareness in French philosophical writing from Descartes to Diderot ceir trafodaeth athronyddol, gynhwysfawr a chyfeirir at y gyfrol yn aml.[3]

Ieithoedd eraill

golygu

Cyfieithodd o'r Rwsieg Y Cosaciaid gan Lev Tolstoy (1998) a thrafododd ‘Y Myfyriwr’ gan Anton Chekhov mewn dwy erthygl (1994-5). Yn 2000 cyhoeddodd gyfrol bwysig ar hanes ieithyddiaeth Geltaidd, Adfeilion Babel: agweddau ar syniadaeth ieithyddol y ddeunawfed ganrif, gwaith a oedd yn olrhain datblygiad syniadau gramadegwyr, geiriadurwyr ac ieithegwyr am ddechreuad a datblygiad iaith a chydberthynas ieithoedd. Ysgrifennodd am yr agweddau a oedd yn deillio o ffynonellau clasurol a Beiblaidd e.e. gwaith John Davies (Mallwyd) ac Edward Lhuyd, a dylanwad ysgolheigion o'r cyfandir e.e. Paul-Yves Pezron a Gottfried Wilhelm von Leibniz ar lenyddiaeth y cyfnod sy'n blaenori darganfyddiad Syr William Jones (1746-1794) o gydberthynas Lladin, Groeg a Sanskrit. Gosododd astudiaethau'r Cymry mewn cyd-destun Ewropeaidd.[4]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 Gwefan y Llyfrgell Genedlaethol Cymru: y Bywgraffiadur Cymreig ar-lein. adalwyd 20 Ebrill 2016.
  2. Caryl Davies: Historian of linguistic scholarship; adalwyd 20 Ebrill 2016
  3. Gwefan Amazon; amazon.com; adalwyd 20 Ebrill 2016.
  4. Gwefan Amazon; amazon.com; adalwyd 20 Ebrill 2016.
  • Ysgrif goffa Meic Stephens yn The Independent , 17 Mawrth 2007;
  • Dyddiadur Adeg Rhyfel Byd Cyntaf William Glyn Jones, Salonika, gwefan Casgliad y Werin Cymru, gwelwyd 24 Mawrth 2015;
  • Mynegai Bywgraffyddol W.W. Price (yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Llyfrgell Gyhoeddus Aberdâr), IV., t. 19, lle ceir ffotograff ohoni;
  • Adroddiad Richard Aaron ar yr Adran Athroniaeth yn ‘Reports submitted to the Court of Governors, University College of Wales Aberystwyth 25 October 1949’, t.49, gwelwyd 24 Mawrth 2015 - chwilier am ‘Miss Catherine G. Jones’;
  • Llythyr David Coward, 7 Mehefin 1990 (casgliad preifat);