Catrin Dafydd (actores)
actores a aned yn 1938
Actores o Gymraes oedd Kathleen Ann Jones a adwaenwid fel Catrin Dafydd (1938 – 11 Tachwedd 2010),[1]. Roedd yn fwyaf adnabyddus am chwarae rhan Lydia Tomos, mam Wali Tomos, yng nghyfres deledu C'mon Midffild!, ar S4C.[2]
Catrin Dafydd | |
---|---|
Ganwyd | 1938 |
Bu farw | 2010 |
Galwedigaeth | actor |
- Am y llenores o'r un enw, gweler Catrin Dafydd (llenores).
Yn 1967/68 ymddangosodd ar HTV Cymru yn y ddwy gomedi-sefyllfa gyntaf yn yr iaith Gymraeg, sef Ma' Pawb Isio Byw a Dai a Henri. Ysgrifennwyd y comediau gan Wil Sam a'i perfformiwyd gan Gwmni'r Gegin, Cricieth.
Yn ei gyrfa ymddangosdd mewn nifer o gynyrchiadau teledu gan gynnwys Gwen Tomos, Mae’n Wyllt Mr. Borrow, Madam Wen, Hafod Haidd a Bysus Bach y Wlad.
Fe'i magwyd yn Abersoch yn ferch i Dafydd a Laura Jones a roedd ganddi chwaer, Anna.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Kathleen ann Jones : Death. Daily Post (16 Tachwedd 2010). Adalwyd ar 20 Ionawr 2018.
- ↑ Ysgrif goffa Catrin (Kathleen) Dafydd (1938-2010). Barn (Ionawr 2011). Adalwyd ar 20 Ionawr 2018.