Agor y brif ddewislen

Pentref sylweddol o faint yw Abersoch ("Cymorth – Sain" ynganiad ) a leolir ar benrhyn Llŷn yng Ngwynedd, ym mhen draw'r A499 (cyfeiriad grid SH313282). Mae'n gorwedd 11 km (7 milltir) i'r dwyrain o dref Pwllheli a 43 km (27 milltir) o Gaernarfon. Enwir y pentref ar ôl aber Afon Soch, sy'n cyrraedd y môr yma ar ôl llifo trwy'r pentref.

Abersoch
Harbwr Abersoch 632038.jpg
Math Pentref, cyrchfan glan môr Edit this on Wikidata
Cylchfa amser UTC±00:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Gwynedd Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 52.8239°N 4.5066°W Edit this on Wikidata
Cod OS SH312281 Edit this on Wikidata
Cod post LL53 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Dafydd Elis-Thomas (Annibynnol)
AS/au Liz Saville Roberts (Plaid Cymru)

Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Dafydd Elis-Thomas (Annibynnol) a'r Aelod Seneddol yw Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[1][2]

Hen ffotograff gan John Thomas o'r harbwr yn Abersoch; Hydref 1896

Datblygodd Abersoch fel porthladd pysgota bychan, ond erbyn hyn twristiaeth yw’r prif ddiwydiant, yn enwedig hwylio. Daeth y pentref yn un o ganolfannau hwylio pwysicaf Prydain yn ystod y trigain mlynedd diwethaf. Oherwydd hyn mae nifer fawr o fewnfudwyr yn y pentref, wedi symud yno o Loegr yn bennaf, ac mae Cymreictod yr ardal a'r iaith Gymraeg wedi dioddef yn enbyd o ganlyniad.

Ceir nifer o siopau a lleoedd bwyta yn y pentref. Gellir hefyd cymryd taith mewn cwch i weld Ynysoedd Tudwal.

Cynnwys

Argyfwng taiGolygu

Mae Abersoch wedi dod i gynrychioli'r argyfwng tai yng nghefn gwlad Cymru oherwydd y prisiau uchel ar dai yn y pentref gwyliau hwn.

Ym mis Mai 2005 rhoddwyd cryn gyhoeddusrwydd i’r hanes fod darn o draeth yn Abersoch gyda chaniatad cynllunio ar gyfer cwt traeth, wedi gwerthu am £63,000. Mae hyn yn adlewyrchu'r ffaith ei bod yn anodd os nad amhosibl i bobl ifainc lleol fforddio prynu tai.

Yn hanner cyntaf 2008 cafwyd enghreifftiau eraill o brisiau syfrdanol a wnaeth y pennawdau. Yn Chwefror rhoddwyd sied pren 18x15 troedfedd "mewn cyflwr adfeiliedig" ar werth am £150,000. Mae'n ddeg munud o'r traeth, heb olygfa yn y byd, ac angen cryn dipyn o waith arno.[3]

HanesGolygu

  • Regatta Abersoch:
14 Awst 1924. Regetta [sic] yn Abersoch. Gwlaw mawr tan amser te. Neb o yma yno.[4]
  • Ras gychod:

“Amgylchiad arall a gofiaf yn dda oedd ras gychod Abersoch, 'Regatta', a gynhelid bob blwyddyn ac sy'n dal mewn bri heddiw (1985). Unwaith erioed y bum yno, tua'r flwyddyn 1909 neu 1910. Cofiaf y byrddau gwerthu, 'Cheap Jacks' fel y'i gelwid. 'Rwy'n cofio hefyd am ddyn yn boddi yno, mab Carreg y Plas, Aberdaron, ond y cof mwyaf byw sydd gennyf yw gweld mab bach fy chwaer hynaf, a oedd ddwy flynedd yn iau na mi, yno mewn pram fawr a fy ffrog binc i amdano. 'Roedd bechgyn bach yn gwisgo ffrogiau ar ddechrau'r ganrif nes cyrraedd pump neu chwech oed. Ni wyddwn bod fy mam wedi rhoi'r ffrog binc i William ar ôl i mi dyfu allan ohoni, ond gwn i mi grio a gwneud stwr a cheisio tynnu'r ffrog oddi arno, nes oedd gan mam a fy chwaer gywilydd ohonof.”[5]

Oriel luniauGolygu

CyfeiriadauGolygu

  1. Gwefan y Cynulliad; adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. BBC Cymru'r Byd: "Sied ar werth am £150,000"
  4. Dyddiadur John Owen Jones, Ffermwr, Crowrach, Bwlchtocyn, Llŷn.
  5. Janet D Roberts (1985) O Ben Llŷn i Lle bu Lleu (Cyngor Gwlad Gwynedd)

Dolenni allanolGolygu

Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: