Catrin Fawr

ymerodres Rwsia

Catrin II neu Catrin Fawr (Rwseg: Екатерина II Великая, Yekaterina II Velikaya (1729 - 1796) oedd ymerodres Rwsia o 28 Mehefin 1762 hyd ei marwolaeth, teyrnasiad o 34 mlynedd, yr hiraf wedi sefydliad Ymerodraeth Rwsia yn 1721.

Catrin Fawr
GanwydSophie Friederike Auguste von Anhalt-Zerbst Edit this on Wikidata
2 Mai 1729 Edit this on Wikidata
Szczecin Edit this on Wikidata
Bu farw6 Tachwedd 1796 (yn y Calendr IwliaiddEdit this on Wikidata
o strôc Edit this on Wikidata
St Petersburg Edit this on Wikidata
Man preswylSzczecin, St Petersburg Edit this on Wikidata
DinasyddiaethYmerodraeth Rwsia, Teyrnas Prwsia Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, teyrn, casglwr celf, pendefig Edit this on Wikidata
SwyddEmperor of all the Russias Edit this on Wikidata
Adnabyddus amAmgueddfa Hermitage Edit this on Wikidata
TadChristian August, Tywysog Anhalt-Zerbst Edit this on Wikidata
MamJoanna Elisabeth o Holstein-Gottorp Edit this on Wikidata
PriodPedr III, tsar Rwsia Edit this on Wikidata
PartnerStanisław August Poniatowski, Grigory Orlov, Alexander Vasilchikov, Grigory Potemkin Edit this on Wikidata
PlantPawl I, Anna Petrovna, Alexey Bobrinsky Edit this on Wikidata
LlinachQ124079217 Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog Urdd Sant Alexander Nevsky, Urdd yr Eryr Gwyn, Urdd yr Eryr Du, Urdd Sant Vladimir, Dosbarth 1af, Urdd Sant Andreas, Urdd Santes Gatrin, Urdd Sant Siôr, Urdd Santes Anna, Urdd Brenhinol y Seraffim Edit this on Wikidata
llofnod

Ganed Catrin fel Sophie Augusta Frederica yn Stettin, yn awr Szczecin yng Ngwlad Pwyl ond yr adeg honno yn deyrnas fechan yn yr Almaen. Dewiswyd hi yn wraig i etifedd y tsar, Pedr o Holstein-Gottorp. Dywedir fod Catrin yn benderfynol o ddysgu Rwsieg mor fuan ag y gallai, ac ar 28 Mehefin 1744 daeth yn aelod o Eglwys Uniongred Rwsia gyda'r enw Catrin Alecseyefna (Yekaterina neu Ekaterina). Priodwyd hi â Pedr ar 21 Awst 1745.

Ni fu'r brodas yn llwyddiant, a dechreuodd Catrin ar gyfres o garwriaethau. Ar ôl marwolaeth yr Ymerodres Elizabeth yn Ionawr 1762 daeth Pedr yn tsar fel Pedr III. Ym mis Gorffennaf bu gwrthryfel yn ei erbyn, a chyhoeddwyd Catrin yn ymerodres. Llofruddiwyd Pedr yn fuan wedyn. Cyhuddwyd Catrin o fod a rhan yn y llofruddiaeth ambell dro, ond nid oes tystiolaeth i gadarnhau hyn.

Roedd Catrin yn darllen yn eang, ac yn llythyru â rhai o ddeallusion amlycaf Ewrop megis Voltaire a Diderot. Ymestynnodd ffiniau Ymerodraeth Rwsia i'r de ac i'r gorllewin, gan gynnwys Belarws a Lithwania. Ychwanegodd tua 200,000 milltir sgwar (518,000 km²) at diriogaeth yr ymerodraeth. O dan ei harweinyddiaeth, gorchfygwyd Twrci mewn rhyfel rhwng 1768 a 1774 ac eilwaith mewn rhyfel rhwng 1787 a 1792.

Cafodd Catrin strôc ar 5 Tachwedd, 1796, a bu farw'r diwrnod wedyn. Dilynwyd hi gan ei mab, Paul I.

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: