Catrin Fawr
Catrin II neu Catrin Fawr (Rwseg: Екатерина II Великая, Yekaterina II Velikaya (1729 - 1796) oedd ymerodres Rwsia o 28 Mehefin 1762 hyd ei marwolaeth, teyrnasiad o 34 mlynedd, yr hiraf wedi sefydliad Ymerodraeth Rwsia yn 1721.
Catrin Fawr | |
---|---|
Ganwyd | Sophie Friederike Auguste von Anhalt-Zerbst 2 Mai 1729 Szczecin |
Bu farw | 6 Tachwedd 1796 (yn y Calendr Iwliaidd) o strôc St Petersburg |
Man preswyl | Szczecin, St Petersburg |
Dinasyddiaeth | Ymerodraeth Rwsia, Teyrnas Prwsia |
Galwedigaeth | gwleidydd, teyrn, casglwr celf, pendefig |
Swydd | Emperor of all the Russias |
Adnabyddus am | Amgueddfa Hermitage |
Tad | Christian August, Tywysog Anhalt-Zerbst |
Mam | Joanna Elisabeth o Holstein-Gottorp |
Priod | Pedr III, tsar Rwsia |
Partner | Stanisław August Poniatowski, Grigory Orlov, Alexander Vasilchikov, Grigory Potemkin, Sergei Saltykov, Pyotr Zavadovsky, Semyon Zorich, Ivan Rimsky-Korsakov, Alexander Lanskoy, Alexander Yermolov, Alexander Dmitriev-Mamonov, Platon Zubov |
Plant | Pawl I, Anna Petrovna, Alexey Bobrinsky |
Llinach | House of Ascania (younger Anhalt-Zerbst branch) |
Gwobr/au | Marchog Urdd Sant Alexander Nevsky, Urdd yr Eryr Gwyn, Urdd yr Eryr Du, Urdd Sant Vladimir, Dosbarth 1af, Urdd Sant Andreas, Urdd Santes Gatrin, Urdd Sant Siôr, Urdd Santes Anna, Urdd Brenhinol y Seraffim |
llofnod | |
Ganed Catrin fel Sophie Augusta Frederica yn Stettin, yn awr Szczecin yng Ngwlad Pwyl ond yr adeg honno yn deyrnas fechan yn yr Almaen. Dewiswyd hi yn wraig i etifedd y tsar, Pedr o Holstein-Gottorp. Dywedir fod Catrin yn benderfynol o ddysgu Rwsieg mor fuan ag y gallai, ac ar 28 Mehefin 1744 daeth yn aelod o Eglwys Uniongred Rwsia gyda'r enw Catrin Alecseyefna (Yekaterina neu Ekaterina). Priodwyd hi â Pedr ar 21 Awst 1745.
Ni fu'r brodas yn llwyddiant, a dechreuodd Catrin ar gyfres o garwriaethau. Ar ôl marwolaeth yr Ymerodres Elizabeth yn Ionawr 1762 daeth Pedr yn tsar fel Pedr III. Ym mis Gorffennaf bu gwrthryfel yn ei erbyn, a chyhoeddwyd Catrin yn ymerodres. Llofruddiwyd Pedr yn fuan wedyn. Cyhuddwyd Catrin o fod a rhan yn y llofruddiaeth ambell dro, ond nid oes tystiolaeth i gadarnhau hyn.
Roedd Catrin yn darllen yn eang, ac yn llythyru â rhai o ddeallusion amlycaf Ewrop megis Voltaire a Diderot. Ymestynnodd ffiniau Ymerodraeth Rwsia i'r de ac i'r gorllewin, gan gynnwys Belarws a Lithwania. Ychwanegodd tua 200,000 milltir sgwar (518,000 km²) at diriogaeth yr ymerodraeth. O dan ei harweinyddiaeth, gorchfygwyd Twrci mewn rhyfel rhwng 1768 a 1774 ac eilwaith mewn rhyfel rhwng 1787 a 1792.
Cafodd Catrin strôc ar 5 Tachwedd, 1796, a bu farw'r diwrnod wedyn. Dilynwyd hi gan ei mab, Paul I.