Catrin ferch Gruffudd ap Hywel

bardd

Merch a bardd o "Landdeiniolen" (h.y. Llanddeiniolfab neu Landdanielfab),[1] Ynys Môn, oedd Catrin ferch Gruffudd ap Hywel (bl. 1555).

Catrin ferch Gruffudd ap Hywel
Enghraifft o'r canlynolbod dynol Edit this on Wikidata

Priododd offeiriad Catholig o'r enw Robert ap Rhys, ac roedd hi'n feirniadol o rai o agweddau'r Diwygiad Protestanaidd. Dilynodd eu mab yr un alwedigaeth fel offeiriad Llanddeiniolen. Mae'r englyn canlynol yn cynrychioli hiraeth Catrin am y grefydd Gatholig yng Nghymru:

Y cór a'r allor a ddrylliwyd — ar gam
Ac ymaith y taflwyd
A'r Lading a erlidiwyd;
O gór y Gŵr llwyd."

Ceir rhagor ganddi am ei chrefydd yn ei hawdl foliant i Grist, neu "Awdl merch glaf er coffa Crist a'i ddioddefaint, neu awdl gyffes pechadures", a phedwar englyn i'r haf oer yn 1555. Cadwyd ei gwaith mewn llawysgrifau yn B.M.Add. MSS. 14892, 14906, 14994, ac Ll.G.C. MSS. 695, 1553, 1559, 2602, 6209 yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Llyfryddiaeth golygu

  • Welsh Women's Poetry, 1460–2001, gol. Katie Gramich a Catherine Brennan (Honno, 2003)[2]

Cyfeiriadau golygu