Caudillismo
Ffurf llywodraeth yw caudillismo ar sail arweinyddiaeth unigol y caudillo—unben sydd yn meddu ar dra-arglwyddiaeth wleidyddol a chymdeithasol drwy awdurdod milwrol a grym carismatig—a fodolai mewn gwledydd Sbaeneg yr Amerig yn y 19g.
Enghraifft o'r canlynol | cysyniad gwleidyddol |
---|
Datblygodd caudillismo o'r hen drefn gymdeithasol yng ngwladfeydd Ymerodraeth Sbaen yn y Byd Newydd, gwleidyddiaeth sydd yn seiliedig ar agweddau tadol yr hacienda ("ystâd"): gwelid y caudillo yn cyfateb, ar lefel genedlaethol, i bennaeth yr hacienda, a'r dinasyddion yn cyfateb i'r gweithwyr. Defnyddiwyd yr enw Sbaeneg caudillo ("arweinydd") i ddisgrifio cadlywydd a oedd yn bennaeth ar lu o filwyr afreolaidd ac yn rheoli tiriogaeth benodol, gyda'i awdurdod anffurfiol yn seiliedig ar ffyddlondeb ei gefnogwyr a'i bersonoliaeth garismatig.[1] Yn sgil y rhyfeloedd annibyniaeth ar draws America Ladin yn nechrau'r 19g, heriwyd awdurdod y llywodraethau newydd gan y caudillos.
Prif ladmerydd cauillismo, mae'n debyg, oedd yr Archentwr Domingo Faustino Sarmiento, sydd yn nodedig am ei ysgrif hir Facundo, o Civilización i barbarie (1845), neu yn fyr Facundo. Mewn enw, bywgraffiad o'r caudillo Juan Facundo Quiroga ydyw, ac mae'r gwaith yn ymhelaethu ar holl agweddau caudillismo ac arweinyddiaeth wleidyddol gan yr unigolyn. Cafodd Facundo effaith bwysig ar syniadaeth wleidyddol yr Ariannin, ac yn fynegiant o'r hollt rhwng gwareiddiad ac anwaredd sy'n diffinio diwylliant a chymdeithas America Ladin yn y 19g.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) caudillismo. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 16 Gorffennaf 2022.