Unben
Person sy'n cymryd awennau'r llywodraeth yn gyfangwbl i'w ddwylo ei hun, yn enwedig trwy ddulliau anghyfansoddiadol megis coup d'état, ac sy'n rheoli gwlad gyda grym absoliwt yw unben. Gelwir ei lywodraeth yn unbennaeth.
Geirddarddiad
golyguDaw'r gair Cymraeg unben o'r elfennau 'un' + 'pen' (pennaeth, rheolwr). Sylwer, fodd bynnag, fod unben (benywaidd: unbennes) yn air Cymraeg Canol digon parchus, sy'n golygu "teyrn" neu "uchelwr"; ceir sawl enghraifft ohono fel cyfarchiad yn y Pedair Cainc.[1] Y gair cyfatebol yn Saesneg a rhai ieithoedd eraill yw dictator (neu ffurf debyg), o'r gair Lladin dictatus. Tardda o gyfnod y Rhufain Hynafol pan roddwyd grym absoliwt i reolwr, dros dro yn unig, mewn argyfwng gwladol.
Rhai unbeniaid enwog
golygu- Nicolae Ceauşescu (Rwmania)
- Adolf Hitler (Yr Almaen)
- Y Cadfridog Francisco Franco (Sbaen)
- Kim Jong-il (Gogledd Corea)
- Benito Mussolini (Yr Eidal)
- Y Cadfridog Augusto Pinochet (Tsile)
- Pol Pot (Cambodia)
- Joseff Stalin (Undeb Sofietaidd)
- Mao Zedong (Gweriniaeth Pobl Tsieina)
Gweler hefyd
golygu- The Great Dictator, ffilm gomedi fwrlesg gan Charlie Chaplin sy'n dychanu'r unben 'Adenoid Hynkel' (Adolf Hitler).
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Geiriadur Prifysgol Cymru, cyfrol 4, tud. 3704.