Cawr coch
sêr wedi'u pweru gan ymasiad hydrogen mewn cragen â chraidd anactif o heliwm
(Ailgyfeiriad o Cawr Coch)
Seren gawr golau o fàs bach neu ganolig (tua 0.3-0.8 màs yr haul) tua diwedd ei oes yw cawr coch[1][2]. Mae'r mathau yma o sêr wedi gorffen y cyflenwad o danwydd hydrogen yn eu creiddiau ac wedi chwyddo'n fawr ac yn denau, gan gadael y Brif Ddilyniant. Tua 5000 K neu lai yw tymheredd eu hwynebau (ffotosffer) (o'i gymharu â 5778 K yr haul). Y tymheredd yma sy'n gyfrifol am eu lliw coch (pelydriad corff du).
Delwedd artist o'r Cawr Goch χ-Cygni | |
Enghraifft o'r canlynol | math o wrthrych seryddol |
---|---|
Math | Seren gawr |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Oherwydd eu bod yn eithaf llachar (oherwydd eu maint) ac yn weddol gyffredin, Cewri Coch yw nifer o'r sêr mwyaf cyfarwydd gan gynnwys Arcturus ac Aldebaran.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Redd, Nola Taylor (2018). "Red Giant Stars: Facts, Definition & the Future of the Sun". Space.com. Cyrchwyd 5 Mai 2021.
- ↑ Andrew Fraknoi; David Morrison; Sidney C. Wolff (2016). Astronomy (PDF). OpenStax. tt. 768 ac eraill. ISBN 978-1-938168-28-4.