Wyneb allanol seren sy'n allyrru ei oleuni yw'r ffotosffer (hefyd gwawlgylch)[1]. Hwn sy'n gyfrifol am liw'r seren[2]. Mae'n nodwedd sy'n cynnwys lawer o wybodaeth am natur y seren gyfan ac o ddefnydd mawr i seryddwyr. Y ffotosffer yw haen allanol grombil fewnol seren a all fod o sawl cynllun. Yn yr Haul mae'r craidd yn trosglwyddo egni trwy gragen belydrol i gragen ddarfudol. Wyneb y gragen ddarfudol hon yw'r ffotosffer. Y tu allan iddo mae'r cromosffer a'r corona. Y ddau ohonynt yn dryloyw ac i'w gweld o'r ddaear dim ond ar adeg diffyg (clip) ar yr haul. (Mae'r ffotosffer, hefyd, yn caniatáu i'r golau sy'n dod ohono ddianc yn syth - yn wahanol i'r haenau oddi tanodd.)

Ffotosffer
Cyfansoddiad yr Haul. Y ffotosffer yw 4.]
Mathcragen gwrthrych seryddol Edit this on Wikidata
Rhan oawyrgylch serol Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Llun o'r ffotosffer a gymerwyd yn 2020. Tua maint Ynys Prydain yw'r gronynnau a welir.

Tymheredd ffotosffer yr haul yw 5778 K ar gyfartaledd[3]- tymheredd sy'n gyfrifol am liw'r haul yn ôl ymddygiad pelydriad cyrff duon. (I'r llygad ac ymennydd dynol ar y ddaear, hwn yw'n diffiniad ni o "wyn".)

Cyfeiriadau

golygu
  1. Andrew Fraknoi; David Morrison; Sidney C. Wolff (2016). Astronomy (PDF). Openstax. t. 528. ISBN 978-1-938168-28-4.
  2. Pogosian, Dmitri. "The Classification of Stars (Darlith)". Adran Ffiseg, Prifysgol Alberta (Canada). Cyrchwyd 5 Mai 2021.
  3. M. Faurobert; ag eraill (6 Mai 2021). "A new spectroscopic method for measuring the temperature gradient in the solar photosphere". Astronomy & Astrophysics 642: A186. https://www.aanda.org/articles/aa/full_html/2020/10/aa37736-20.