Cefn Cil-Sanws
bryn (461m) yn Fwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
Safle carnedd gylchog o Oes yr Efydd ydy Cefn Cil-Sanws, yn Y Faenor, Merthyr Tydfil; cyfeiriad grid SO 024 108.
Math | bryn, copa |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Merthyr Tudful |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 461 metr |
Cyfesurynnau | 51.7821°N 3.4146°W |
Cod OS | SO0240210270 |
Manylion | |
Amlygrwydd | 62 metr |
Rhiant gopa | Pen y Fan |
Cadwyn fynydd | Bannau Brycheiniog |
Math o garnedd gynhanesyddol a godwyd gan y Celtiaid ydy “carnedd gylchog”. (Saesneg: ring cairn); fe'i codwyd i nodi mangre arbennig, ar gyfer defodau neu i goffau'r meirw, a hynny yn Oes yr Efydd, mae'n debyg.
Ni ddylid cymysgu'r math hwn gyda chylch cerrig, sy'n perthyn i oes wahanol. Caiff ei nodi ar fapiau'r Ordanance gyda'r gair 'Cairn'. Sylwer, hefyd, mai “carnedd gylchog” ydy'r term sy'n cael ei ddefnyddio yng ngeiriadur yr Academi, yn hytrach na "charnedd gylch".
Cofrestrwyd yr heneb gan Cadw gyda'r rhif SAM: GM567.[1]