Merthyr Tudful
Tref ym mwrdeistref sirol Merthyr Tudful, Cymru, yw Merthyr Tudful.[1][2] Saif 23 milltir (37 km) i'r gogledd o Gaerdydd. Yn 2011 roedd ganddi boblogaeth o dros 59,500.
Hen Neuadd y Dref | |
Math | tref |
---|---|
Poblogaeth | 58,839 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Merthyr Tudful |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.747263°N 3.37795°W |
Cod OS | SO049062 |
Cod post | CF47 |
Gwleidyddiaeth | |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Adnoddau Dysgu | |
Rhestr o adnoddau dysgu ar gyfer y pwnc yma | |
---|---|
HWB | |
Y Chwyldro Diwydiannol yng Nghymru | |
CBAC | |
Radicaliaeth a Phrotest, 1810-1848 | |
Adolygwyd testun yr erthygl hon gan arbenigwyr pwnc ac mae'n addas i'w ddefnyddio mewn addysg |
- Mae'r erthygl hon yn sôn am dref Merthyr Tudful. Am Fwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, gweler Merthyr Tudful (sir). Am leoedd eraill o'r enw "Merthyr", gweler Merthyr (gwahaniaethu).
Mae'r dref yn ymestyn o gymer afonydd Taf Fawr a Thaf Fechan i gyfeiriad Pontypridd, rhwng 100 a 400 metr uwchlaw lefel y môr. Tyfodd y dref oherwydd ei daeareg gyfoethog, lle cloddiwyd am dri math o garreg: glo, haearn a chalchfaen. Ar ben hyn, roedd glaw trwm yn peri i'r nentydd lifo'n gryf, gan gynhyrchu ynni i droi peiriannau'r gwaith haearn. Caiff Merthyr ei hadnabod ledled y byd fel prifddinas cynhyrchu haearn yn ystod y Chwyldro Diwydiannol.
Mae etholaeth Merthyr Tudful a Rhymni yn ethol aelod i Senedd Cymru a Merthyr Tudful a Rhymni i Senedd San Steffan yn Llundain. Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Dawn Bowden (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Gerald Jones (Llafur).[4] Mae'r etholaeth hefyd yn rhan o Ranbarth Dwyrain De Cymru ar gyfer ethol aelodau rhanbarthol Senedd Cymru.
Hanes
golyguMae'r dystiolaeth ddynol yn mynd yn ôl i'r Oes Efydd, a cheir yn yr ardal grudiau, carneddau a chylchoedd cerrig, er bod llawer o'r olion wedi eu difetha gan yr holl gloddio a chwalu yn sgil y gwaith haearn.
Cododd y Rhufeiniaid gaer yn yr ardal (ym Mhenydarren), a chododd y Normaniaid gastell ym Morlais. Roedd y dref yng nghantref Senghennydd yn Nheyrnas Morgannwg. Gorchfygwyd y dref gan Gilbert de Clare yn ail hanner y 13g.[5]
Adeiladodd yr Anghydffurfwyr gapel yng Nghwm-y-glo yn 1690, a chododd yr Undodiaid un yng Nghefn Coed y Cymer yn 1747. Pan ddaeth y mewnlifiad o bobl yn y 19g, ymunodd y rhan fwyaf gyda'r anghydffurfwyr. Roedd y meistri tir a'r diwydianwyr cyfoethog yn perthyn i Eglwys Loegr, fel mewn llawer o lefydd yng Nghymru.
Roedd hi'n ardal amaethyddol tan tua diwedd y ddeunawfed ganrif. Erbyn 1801 roedd y boblogaeth dros 7,000. Erbyn 1831 roedd y boblogaeth yn 30,000, a hyhi oedd y dref fwyaf yng Nghymru. Roedd y boblogaeth yn tyfu'n gyflymach ym Merthyr nag mewn unrhyw dref arall yng Nghymru.
Erbyn diwedd y 18g roedd gwaith haearn yn bwysig iawn yng Nghymru, ac roedd pedwar gwaith haearn pwysig ym Merthyr, sef Gwaith Haearn Cyfarthfa (eiddo teulu Crawshay), Gwaith Haearn Dowlais, Gwaith Haearn Penydarren a Gwaith Haearn Plymouth. Ym 1831 cyrhaeddodd rhai blynyddoedd o aflonyddwch ymysg gweithwyr Merthyr a'r cyffiniau uchafbwynt treisgar a adwaenir fel 'Gwrthryfel y gweithwyr ym Merthyr Tudful' neu 'Wrthryfel Merthyr'.
Y Chwyldro Diwydiannol
golyguCafodd y Chwyldro Diwydiannol effaith bellgyrhaeddol ar fywyd bob dydd pobl yn y gymdeithas, gwaith pobl ac ar fywyd gwleidyddol Cymru. Roedd twf cyflym ardaloedd fel Merthyr, o fod yn bentrefi bach gwledig i fod yn drefi diwydiannol mewn cyfnod cymharol fyr, wedi achosi straen enfawr.[6] Yn 1696 dim ond 40 o dai oedd ym Merthyr Tudful. Cafodd y gweithfeydd haearn cyntaf eu hadeiladu ym Merthyr yn 1765. Tyfodd canol tref Merthyr gyda’r diwydiant haearn. Erbyn 1851 roedd 46,378 o bobl yn byw yno. Adnabuwyd Merthyr fel ‘crud’ y Chwyldro Diwydiannol yng Nghymru, gan ddenu gweithwyr i’r gweithfeydd haearn o du mewn i Gymru, o Loegr, Iwerddon a thu hwnt. Merthyr Tudful oedd prif dref haearn Cymru yn ystod y 19eg ganrif, gyda’r pedwar prif waith haearn yno yn cynhyrchu’r un faint o haearn a 25% o gynnyrch haearn yr Unol Daleithiau i gyd. Crëwyd gweithlu enfawr yn yr ardal a chywasgwyd hwy i fyw mewn tai gorlawn, wedi eu hadeiladu heb unrhyw gynllun penodol lle'r oedd afiechydon yn rhemp.
Roedd gan Ferthyr y deunyddiau crai angenrheidiol i sicrhau llwyddiant y pedwar prif waith haearn a oedd wedi eu sefydlu yno erbyn diwedd y 18g:
- Penydarren, o dan berchenogaeth teulu’r Homfrays
- Plymouth, o dan berchenogaeth Anthony Bacon ac yna Richard Hill
- Dowlais, o dan berchenogaeth Josiah John Guest
- Cyfarthfa, o dan berchenogaeth teulu’r Crawshays.[6]
Sylwodd y dynion busnes hyn fod gan yr ardal y cynhwysion perffaith ar gyfer cynhyrchu haearn o safon - er enghraifft, mwyn haearn (craig yn cynnwys haearn), glo (i boethi’r haearn), calchfaen (i gyflymu’r broses) a chyflenwad o ddŵr cyfleus a digonol.
Haearn oedd un o’r diwydiannau cyntaf i newid Cymru yn ystod y Chwyldro Diwydiannol ar ddiwedd y 18g. Cafodd rhai o’r gweithfeydd haearn cyntaf eu hadeiladu yn Sir Fynwy a Morgannwg. Adeiladwyd gweithfeydd haearn mawr o gwmpas Merthyr Tudful a Dowlais ac agorwyd gweithfeydd haearn eraill i’r dwyrain o Ferthyr yn Nant-y-glo, Blaenafon a Thredegar yn Sir Fynwy.[7]
Roedd bywyd yn galed yn y trefi haearn newydd hyn fel Merthyr, gan fod amgylchiadau gwaith yn beryglus, yr amgylchiadau byw brwnt, y gor-boblogi yn ychwanegu at straen bob dydd bywyd, a chyflogau yn isel ac ansicr. Roedd llawer yn troi at or-yfed fel dihangfa, a oedd yn ei dro yn arwain at ochr dreisgar a chaled bywyd yn y dref. Bu terfysgoedd yn y dref yn 1800, 1813 ac 1816, oedd yn dangos bod tensiynau yn bodoli yn y gymdeithas yno. Ond y terfysg mwyaf difrifol oedd Terfysg Mehefin 1831.
Gwrthryfel y gweithwyr ym Merthyr Tudful
golyguYm 1831 cyrhaeddodd rhai blynyddoedd o aflonyddwch ymysg gweithwyr Merthyr Tudful a'r cyffiniau uchafbwynt treisgar a adnabyddir fel Gwrthryfel Merthyr neu Gwrthryfel y gweithwyr ym Merthyr Tudful. Roedd gweithwyr yn galw am ddiwygio, yn protestio yn erbyn gostwng eu cyflogau a diweithdra cyffredinol. Yn raddol, ymledodd y brotest i drefi a phentrefi diwydiannol cyfagos, ac erbyn diwedd mis Mai roedd yr ardal gyfan mewn gwrthryfel, a chredir i faner goch chwyldro gael ei chwifio fel symbol o wrthryfel gweithwyr am y tro cyntaf. Cymerodd tua 7,000 i 10,000 o weithwyr ran yn y gwrthryfel. Am bedwar diwrnod, bu ynadon a meistri haearn dan warchae yn y Castle Hotel, ac am wyth diwrnod, Tŷ Penydarren oedd yr unig loches i'r awdurdodau. Roedd gan derfysgwyr gynnau a ffrwydryddion, a sefydlwyd rhwystrau ffyrdd a chadwyn reoli. Gorchmynnodd llywodraeth Prydain yn Llundain y fyddin i adfer trefn yn yr ardal. I ddechrau, gwrthsafodd y protestwyr y fyddin, ond erbyn mis Mehefin llwyddodd 450 o filwyr i wasgaru'r terfysgoedd. Lladdwyd tua 24 o brotestwyr ac arestiwyd yr arweinwyr. Dedfrydwyd dau i farwolaeth.
Bu Terfysg Merthyr yn 1831 yn drobwynt yn hanes y dosbarth gweithiol yng Nghymru gan fod y terfysg wedi dangos bod gan y dosbarth gweithiol gwynion penodol fel grŵp o weithwyr. Roedd y terfysg wedi dangos eu bod yn ymwybodol o’u hunain fel carfan o weithwyr, a dangosodd Terfysg 1831 eu bod am i’r cwynion hynny gael eu clywed. Teimlent orfodaeth i droi at ddulliau terfysglyd eu natur i leisio eu barn gan nad oedd ganddynt lais gwleidyddol i wneud hynny – sef y bleidlais.
Geirdarddiad
golyguYn ôl traddodiad, cysylltir Merthyr â'r santes Tudful, merch y brenin Brychan Brycheiniog, ac enwyd y dref ar ei hôl. Dywedir iddi gael ei lladd gan baganiaid yn 480; a honnodd Iolo Morgannwg yr enwyd y fan lle'i lladdwyd yn 'Ferthyr' Tudful i'w hanrhydeddu.[8] Ystyr y gair Lladin Martyrium yw 'man cysegredig' a daw'r enw o'r gair 'merthyr' yn ei hail ystyr, sef "eglwys er cof am sant neu ar ei fedd, neu fynwent sanctaidd".[9] Ceir sawl enw lle yng Nghymru sy'n cynnwys 'Merthyr' gan gynnwys Merthyr Mawr ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Merthyr Cynog ym Mhowys.
Ardaloedd
golyguEglwysi
golygu- Capel Stryd Fawr y Bedyddwyr
- Eglwys Santes Tudful, Caedraw
- Eglwys Dewi Sant, Stryd Uchaf
- Eglwys Ffynnon Santes Tudful, y Chwarel (Saesneg: The Quar)
- Eglwys Babyddol y Santes Fair, Pontmorlais
Trafnidiaeth
golyguMae gorsaf reilffordd ar gael, ar ben y gangen Merthyr ar y Llinell Merthyr, gyda wasanaethau i Gaerdydd a Bro Morgannwg. Mae'r prif orsaf fysiau y dref yn agos iawn, ar Stryd yr Alarch.
Chwaraeon
golyguLleolir Bikepark Wales, parc beicio mynydd priodol cyntaf Prydain, ym Merthyr.[10] Mae Clwb pêl-droed yn y dref sydd wedi ei leoli ym Mharc Penydarren yn ardal Abermorlais. Ar hyn o bryd, mae'r clwb yn chwarae yn Uwch Gynghrair De Lloegr, y seithfed lefel yn system genedlaethol pêl-droed Lloegr. Cafwyd un o ganlyniadau mwyaf enwog y clwb yn 1987, wrth iddynt guro Atalanta o'r Eidal 2-1 ym Mharc Penydarren yn rownd gyntaf cwpan enillwyr cwpanau Ewrop.
Yr iaith Gymraeg
golyguYn ôl Cyfrifiad 1891 roedd 68.4% o boblogaeth Merthyr, sef 75, 067 allan o gyfanswm o 110, 569, yn siarad Cymraeg.[11] Erbyn Cyfrifiad 1911, disgynnodd y ffigur hwn i 50.9%, sef 37,469 o gyfanswm o 74,596 (ibid.). Dengys ffigyrau Cyfrifiad 2011 fod 8.9% o boblogaeth Merthyr yn siarad Cymraeg erbyn hyn.[12] Mae Canolfan a Theatr Soar wedi ei lleoli yng nghanol y dref, ac yn gartref i'r iaith Gymraeg a'r celfyddydau yn y dref. Mae'r ganolfan hefyd yn gartref i Gaffi Soar a Siop Lyfrau'r Enfys.
Eisteddfod Genedlaethol
golyguCynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol ym Merthyr Tudful ym 1881 a 1901. Am wybodaeth bellach gweler:
Enwogion
golygu- Des Barry, awdur
- The Blackout, band roc
- Ciaran Jenkins, newyddiadurwr
- Glyn Jones (1905–1995), llenor
- Philip Madoc (1934–2012), actor
- Julien McDonald, dylunydd ffasiwn
- Leslie Norris (1921–2006), bardd ac awdur
- Johnny Owen (1956–1980), paffiwr
- Jonny Owen, actor
- Morgan Owen (bardd a llenor)
- Dr. Joseph Parry (1841–1903), cerddor
- Mark Pembridge, chwarewr pêl-droed
- Robert Sidoli, chwarewr rygbi
- Steve Speirs, actor
- Eddie Thomas (1926–1997), paffiwr
- Lucy Thomas, (1781- 27 Medi 1847), diwydiannwr Cymreig a pherchennog nifer o lofeydd yn yr ardal
- Malcolm Vaughan (1929–2010), canwr ac actor
- David Watkin Jones (Dafydd Morganwg), bardd ac awdur
- Penry Williams (1800-1885), arlunydd
- Howard Winstone (1939–2000), paffiwr
- Gavin Williams, chwaraewr pêl-droed
Oriel
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
- ↑ British Place Names; adalwyd 24 Rhagfyr 2021
- ↑ "Gwefan Senedd Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-10. Cyrchwyd 2021-12-24.
- ↑ Gwefan Senedd y DU
- ↑ Gwyddoniadur Cymru; Gwasg Prifysgol Cymru; 2008
- ↑ 6.0 6.1 "Radicaliaieth a Phrotest 1810-1848" (PDF). CBAC. Cyrchwyd 7 Mawrth 2020.
- ↑ "Repository - Hwb". hwb.gov.wales. Cyrchwyd 2020-04-07.
- ↑ Farmer, David Hugh. (1978). "Tydfil". In The Oxford Dictionary of Saints.
- ↑ Geiriadur Prifysgol Cymru, vol. III, tudalen 2436.
- ↑ http://www.bikeparkwales.com/
- ↑ Edwards, Hywel Teifi (2001). "Pennod 4: Yr Eisteddfod Genedlaethol ym Merthyr Tudful 1881 ac 1901". In Edwards, Hywel Teifi. Merthyr a Thaf. Gwasg Gomer. tud. 100–110. ISBN 1 84323 025 9
- ↑ http://www.comisiynyddygymraeg.org/Cymraeg/Cymorth/dataacystadegau/Pages/Cyfrifiad2011canlyniadauanewidiadauer2001.aspx/ Archifwyd 2014-05-21 yn y Peiriant Wayback. Gwefan Comisiynydd y Gymraeg. Adalwyd Ebrill 2014
Dolenni allanol
golygu- Cyngor Merthyr Tudful Archifwyd 2008-12-26 yn y Peiriant Wayback
- Yr Athro E. Wyn James yn trafod emynau sy'n gysylltiedig â chapel Soar. Rhan 1: https://www.youtube.com/watch?v=AhGimObXA8M Rhan 2: https://www.youtube.com/watch?v=ScwL1WwC0nM
Trefi
Merthyr Tudful · Treharris
Pentrefi
Abercannaid · Aberfan · Bedlinog · Cefn Coed y Cymer · Dowlais · Heolgerrig · Y Faenor · Mynwent y Crynwyr · Pentrebach · Pontsticill · Pontygwaith · Trelewis · Troed-y-rhiw · Ynysowen