Cefn Coch, Rhuthun

ffermdy rhestredig Gradd II yn Llanfair Dyffryn Clwyd

Ffermdy hynafol, ffrâm bren, sy'n nodedig am lawysgrifau Cefn Coch yw Cefn Coch a leolir rhyw filltir o Rhuthun, Sir Ddinbych. Cefn Coch oedd cartref Henry Price, prifathro Jacobitaidd Ysgol Rhuthun, y mae ei gofeb yn eglwys y plwyf, Llanfair Dyffryn Clwyd. Ar y tir, ceir hefyd gloddfa hynafol, Crug Cefn Coch, Crug crwn llydan iawn a godwyd gan bobl Oes Newydd y Cerrig neu Oes yr Efydd fel rhan o'u seremonïau.

Cefn-coch
Mathffermdy Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1643 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadLlanfair Dyffryn Clwyd Edit this on Wikidata
SirLlanfair Dyffryn Clwyd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr73.5 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.104305°N 3.28458°W Edit this on Wikidata
Cod postLL15 2UP Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II Edit this on Wikidata
Manylion

Gosodwyd sgerbwd y tŷ ar ffurf 4 ffrâm, o ran uchder, a saif y fframiau pren hyn ar lwyfan cadarn o galchfaen.[1] Adeiladwyd waliau'r gogledd a'r gorllewin o fric.

Awyrlun o'r ffermdy gyda bryniau Dyffryn Clwyd i'r Dwyrain

Ceir y dyddiad 1643 wedi'i gerfio ar drawst bren ar un o ystafelloedd gwely'r ffermdy. Fe'i cofrestwyd gan Cadw yng Ngorffennaf 1966 oherwydd ei fod yn 'ffermdy mewn grŵp da o adeiladau ffrâm bren a gwaith brics'.

Cyfeiriadau golygu

  1. britishlistedbuildings.co.uk; adalwyd 4 Medi 2022.