Agor y brif ddewislen
Y grug o flaen Fferm Cefn Coch, Rhuthun.

Crug crwn llydan iawn a godwyd gan bobl Oes Newydd y Cerrig neu Oes yr Efydd fel rhan o'u seremonïau neu i gladdu'r meirw ydy Crug Cefn Coch, yng nghymuned Llanfair Dyffryn Clwyd, Sir Ddinbych; cyfeiriad grid SJ141568. Mae'r cae lle saif y crug bron yn union gyferbyn adeiladau "Tarw Potel", gerllaw Fferm Cefn Coch. Mae ei ddiamedr yn 40 metr a'i uchder yn un fetr. Amgylchynwyd y mwnt gan ddwy ffos; mae'r naill yn 24m a'r llall yn 45m mewn diamedr.

Cofrestrwyd y crug hwn gan Cadw a chaiff ei adnabod gyda'r rhif SAM: DE265.[1] Ceir bron i 400 o grugiau crynion ar y gofrestr; mwy nag unrhyw fath arall o heneb.

Codwyd crugiau crynion yn gyntaf tua 3000 C.C. a pharhaodd yr arfer hyd at ddiwedd Oes yr Efydd (tua 600 C.C.) gyda'r mwyafrif ohonyn nhw'n cael eu codi rhwng 2400 - 1500 C.C.[2]

Gweler hefydGolygu

Mathau gwahanol o henebion a ddefnyddir mewn arferion claddu:

Dolen allanolGolygu

CyfeiriadauGolygu