Afon Llwchwr
Mae afon Llwchwr (Saesneg: River Loughor) yn Sir Gaerfyrddin yn dechrau o lyn dan ddaear yn y Mynydd Du. Mae'n llifo heibio trefi megis Rhydaman a'r Hendy yn Sir Gaerfyrddin a Pontarddulais yn sir a dinas bwys dref Abertawe. Mae'r afon yn gwahanu Sir Gaerfyrddin oddi ar Abertawe am y rhan fwyaf o'i chwrs ac mae'n gwahanu Hendy a Pontarddulais cyn gynted ag y mae'n troi'n forol. Mae'r Llwchwr yn cwrdd â'r môr ar ei haber ar bwys tref Casllwchwr, lle y mae'n gwahanu arfordir deheuol Sir Gaerfyrddin o arfordir gogleddol y Gŵyr.
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Gaerfyrddin |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.6667°N 4.0833°W |
Aber | Bae Caerfyrddin |
Llednentydd | Afon Aman |
Dalgylch | 262 cilometr sgwâr |
Un o'r afonydd sy'n ymuno ym Mhantffynnon yw afon Aman.
Yn Abertawe yn y 18g, roedd gan yr afon enw da am sewin ac eogiaid. Roedd y pysgod a dalwyd yn yr afon yn cael ei hel lawr at farchnad Abertawe ar gefn merlod. Lleihaodd pysgota yn y 19g oherwydd llygredd o'r diwydiannau ffyniannus yn yr ardal yn y cyfnod hwnnw.