Deil-lysieuyn yw celys,[1] cêl[1] neu fresychen ddeiliog sydd yn cynnwys sawl cyltifar o fresych (Brassica oleracea) a nodweddir gan goesynnau hirion, dail mawrion, a diffyg pen caled.

Celys
Celys cwrlog.
Enghraifft o'r canlynolllysieuyn, tacson Edit this on Wikidata
Mathllysieuyn, llysieuyn dail Edit this on Wikidata
Safle tacsonamrywiad Edit this on Wikidata
Rhiant dacsonBresychen wyllt Edit this on Wikidata
Dechreuwyd4 g CC Edit this on Wikidata
CynnyrchBrassica napus subsp. napus var. pabularia Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae'r cyltifarau cyffredin o gelys yn cynnwys:

  • Celys cwrlog, gyda dail crychion o liw gwyrdd, a chanddo flas fymryn chwerw ac ansoddni cryf, a roddir mewn saladau, swpiau, a llysiau tro-ffrio;
  • Celys Eidalaidd, celys palmwydd neu gelys deinosor, gyda dail hirion, meinion o liw gwyrdd tywyll, a chanddo flas melys ac ansoddni meddal o'i gymharu â chelys cwrlog, a ddefnyddir yn fynych mewn coginiaeth Eidalaidd;
  • Celys Rwsiaidd, gyda dail crychion o liw coch-borffor, a dyfir am fwyd ac am addurno gerddi a thirlunio.

Planhigyn eilflwydd yw celys, ond fel arfer fe'i tyfir yn flynyddol. Wrth flodeuo yn yr ail flwyddyn, mae'n cynhyrchu blodau melyn a ffrwythau ar ffurf silicwa. Cnwd caled ydyw a gaiff ei fwyta yn ystod tymhorau'r hydref a'r gaeaf yn bennaf, am fod y tywydd oer yn gwella'i flas.[2]

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 Termau Coginio (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1971), t. 19.
  2. (Saesneg) Kale. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 2 Gorffennaf 2023.