Cenedlaetholdeb yng nghenedl Iwerddon sydd wedi bodoli am ganrifoedd fel gwrthwynebiad i statws yr ynys fel rhan o Brydain Fawr yw cenedlaetholdeb Gwyddelig. Mae'r mudiad yn galw am uniad Gweriniaeth Iwerddon a Gogledd Iwerddon, a gawsant eu rhannu yn 1920. Cyferbynnir safbwynt gwleidyddol y cenedlaetholwyr Gwyddelig gydag un yr Unoliaethwyr, y Gwyddelod sy'n cefnogi undeb Gogledd Iwerddon (ac weithiau gweddill Iwerddon) gyda'r Deyrnas Unedig. Mae hunaniaethau Catholig a Cheltaidd yn cael eu cysylltu'n aml â chenedlaetholdeb Gwyddelig.

Gweler hefydGolygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Iwerddon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.