Cenedligrwydd, Cyfiawnder a Heddwch

Casgliad o ysgrifau gan amryw o awduron yw Cenedligrwydd, Cyfiawnder a Heddwch a gyhoeddwyd yn 2013 gan Y Lolfa. Man cyhoeddi: Tal-y-bont, Cymru.[1]

Cenedligrwydd, Cyfiawnder a Heddwch
GolygyddE. Gwynn Matthews
AwdurAmrywiol
CyhoeddwrY Lolfa
GwladCymru
IaithCymraeg
ArgaeleddAr gael
ISBN9781847716835
GenreLlyfrau gwleidyddol

Dyma gasgliad o ysgrifau sy'n trafod rhai o oblygiadau cenedligrwydd gan gynnwys, trafodaeth ar Genedlaetholwyr amlwg fel Gwynfor Evans, a chomiwnyddion Cymru, gan nodi'n arbennig y goblygiadau sydd ynghlwm â chenedligrwydd, o safbwynt y cysyniad o gyfiawnder.

E. Gwynn Matthews y golygydd y gyfroil; cyn ymddeol yr oedd Gwynn Matthews yn diwtor ym Mhrifysgol Cymru, Bangor. Ei brif ddiddordebau athronyddol yw Hegel ac Idealaeth Brydeinig. Ef yw Llywydd yr Adran a’r Cydlynydd Cyhoeddiadau. Ymhlith ei gyhoeddiadau mae: Hegel (Cyfres ‘Y Meddwl Modern’); Yr Athro Alltud: Bywyd a Gwaith Syr Henry Jones a Francis Fukuyama and the End of History (gyda Howard Williams a David Sullivan).


Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gwefan Gwales; adalwyd 1 Awst 2017.