Cerddoleg
Disgyblaeth academaidd sy'n ymwneud â cherddoriaeth yw cerddoleg.[1] Mae'n cwmpasu pob agwedd o gerddoriaeth, ac eithrio yr arfer o berfformio a chyfansoddi ei hun, hynny yw hyfforddiant cerddorol. Un o feysydd y dyniaethau yw cerddoleg. Mewn astudiaethau hanesyddol mae gwreiddiau'r maes, a datblygodd yn hwyrach i grybwyll dadansoddiad a damcaniaeth. Yn hanesyddol bu pwyslais ar gerddoriaeth Ewrop a cherddoriaeth glasurol yn enwedig,[2] ond bellach caiff pob genre, cyfnod, a diwylliant ei astudio gan y cerddolegydd. Rhennir cerddoleg yn is-feysydd: ffurf a nodiant, bywydau'r cyfansoddwyr a'r cerddorion, datblygiad offerynnau cerdd, damcaniaeth cerddoriaeth, ac estheteg, acwsteg, a ffisioleg.[3]
Enghraifft o'r canlynol | disgyblaeth academaidd, pwnc gradd |
---|---|
Math | music, Geisteswissenschaften, diwyllianneg |
Rhan o | Q113296040 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Maes
golyguDamcaniaeth
golygu- Prif: Damcaniaeth cerddoriaeth
Maes eang sy'n crybwyll egwyddorion ac elfennau cerdd yw damcaniaeth cerddoriaeth: rhythm a metreg, moddion a graddfeydd, offeryniaeth, ffurf, ac harmoni.[4] Weithiau caiff damcaniaeth cerddoriaeth ei astudio'n bwnc ar wahân i gerddoleg mewn prifysgolion, gan ei bod yn ymwneud ag elfennau ymarferol.
Hanes cerddoriaeth
golygu- Prif: Hanes cerddoriaeth
Mae'r hanesydd cerdd yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys dadansoddi testunau a nodiant (paleograffeg), ymchwil archifol, a'r dull cymharol.[2]
Estheteg
golyguAgwedd athronyddol ar gerddoriaeth yw estheteg, sy'n ymchwilio i effeithiau, emosiynau, semanteg, ontoleg, a chanfyddiad gweithiau cerddorol.[2]
Acwsteg
golygu- Prif: Acwsteg
Ffiseg sain gerddorol yw acwsteg.
Ffisioleg
golyguMae ffisioleg y llais, y glust a'r dwylo o ddiddordeb i gerddolegwyr.
Ethnogerddoleg
golygu- Prif: Ethnogerddoleg
Trwy gyfuno astudiaethau cerdd ag ethnoleg, datblygodd y maes ethnogerddoleg sy'n astudio agweddau diwylliannol a chymdeithasol cerddoriaeth. Hon yw agwedd anthropolegol neu ethnograffig cerddoleg.
Organoleg
golyguAstudiaeth offerynnau cerdd yw organoleg: eu hanes, dyluniad, a gwneuthuriad.
Addysg a gwerthfawrogiad
golyguPwrpas beirniadaeth cerdd yw dadansoddi, disgrifio, a dehongli gweithiau cerddorol, neu'r broses gerddorol. Mae'r is-faes hwn yn tynnu ar estheteg yn bennaf.[2]
Agweddau eraill
golyguCafwyd effaith ar gerddoleg gan wyddorau cymdeithas, yn bennaf cymdeithaseg a seicoleg. Hefyd yn astudiaethau diwylliannol, mae delw-arluniaeth yn gynrychioliad gweledol o bynciau cerddorol, megis offerynnau a cherddorion, mewn testunau, celfyddyd, arian, a chyfryngau eraill.[2]
Dull ac agweddau
golyguGallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Hanes
golyguGellir olrhain astudiaethau cerddorol i oes yr hen Roeg, a gwaith yr athronwyr parthed gwerthoedd moesol ac esthetaidd. Datblygant hefyd damcaniaethau mathemategol ar natur cerddoriaeth a dosbarthiad o foddion cerddorol. Goroesoedd y syniadau hyn drwy ysgolheictod yr Arabiaid a'r Cristnogion, a'u cynnal hyd yr Oesoedd Canol. Un o'r trawsnewidiadau yn Ewrop oedd nodiant y mynach Guido o Arezzo (c. 990–1050) a'i effaith ar addysg gerdd. Cyhoeddwyd nifer o lyfrau ar estheteg a damcaniaeth yn ystod y Dadeni, gan gynnwys traethodau ar offerynnau cerdd gan Henri Arnaut de Zwolle, Johannes Tinctoris, a Sebastian Virdung. Trwy'r cyfnod hwn, ni ystyrid egwyddorion cerddoriaeth yn faes ar wahân i berfformio a chyfansoddi.[3]
Cychwynodd ymchwil hanesyddol ym maes cerddoriaeth yn y 18g. Ymhlith y gweithiau cynnar mae hanesion yr Eidalwr G. B. Martini (Storia della musica; 1757–81), yr Almaenwr Martin Gerbert (De cantu et musica sacra; 1774), a'r Saeson Charles Burney (General History of Music; 1776–89) a J. Hawkins (General History of the Science and Practice of Music; 1776). Yn y 19eg ganrif cynyddodd diddordeb yng ngherddoriaeth hynafol a chanoloesol, ac ymdrechodd ysgolheigion i ddeall yr hen ffurfiau o nodi cerddoriaeth. Llwyddodd y Belgiad François Joseph Fétis (1784–1871) a'r Awstriad August Wilhelm Ambros (1816–76) i lunio hanesion cynhwysfawr o ddatblygiad cerddoriaeth Ewropeaidd, gan gynnwys trawsgrifiadau o gyfansoddiadau o'r Oesoedd Canol a'r Dadeni. Ymddiddorodd Samuel Wesley, Felix Mendelssohn ac eraill yng ngweithiau'r cyfansoddwyr cynt, a gwnaed rhagor o ymchwil i'r hen nodiant gan Johannes Wolf.[3] Bathwyd yr enw Almaeneg Musikwissenschaft gan yr athro cerdd J. B. Logier ym 1827.[4] Yn ei lyfr Jahrbücher für musikalischer Wissenschaft (1863), defnyddiodd F. Chrysander y gair hwnnw wrth ddadlau dros astudio gwyddor cerdd a gosod sylfaen a safonau methodolegol iddi.[3] Ymledodd yr enw ar draws Ewrop a chafodd yr astudiaethau hanesyddol eu mabwysiadu gan y maes newydd.
Sefydlwyd y Gymdeithas Gerddoriaeth Frenhinol ym Mhrydain ym 1874, a'r Gymdeithas Gerddoleg Americanaidd ym 1934. Pwrpas y Gymdeithas Gerddoriaeth Ryngwladol (1900–14) oedd i hybu astudiaeth cerddoleg, a pharháodd dan ei olynydd y Société Internationale de Musicologie a sefydlwyd ym 1928.[4] Cafwyd dylanwad ar gerddoleg gan seicoleg ac ethnoleg, a daeth bywgraffiad yn agwedd bwysig o'r maes.[3] Ymchwiliodd cerddolegwyr yn ddyfnach i'r gerddoriaeth gynharaf. Ers canol yr 20g, mae cerddoleg yn bwnc mewn nifer o brifysgolion a cheir sawl cyfnodolyn sy'n ymdrin ag agweddau arbenigol y maes.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Geiriadur yr Academi, [musicology].
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 (Saesneg) "musicology" yn y New Dictionary of the History of Ideas (Gale, 2005). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 23 Ionawr 2017.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 3.3 3.4 (Saesneg) musicology. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 23 Ionawr 2017.
- ↑ 4.0 4.1 4.2 (Saesneg) "musicology" yn The Concise Oxford Dictionary of Music (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1996). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 23 Ionawr 2017.