Cerfio pren ym Mhalesteina

atyniad twristiaeth ym Methlehem

Dechreuodd y traddodiad o gerfio pren efo llaw yn y 4g OC, yng ngyfnod Yr Ymerodraeth Fysantaidd ym Methlem. Mae'r ddinas yn parhau i fod y brif fan sy'n cynhyrchu'r grefft.

Cerfio pren ym Mhalesteina
Enghraifft o'r canlynolcerfio pren Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu3 g Edit this on Wikidata
LleoliadBethlehem, Gwladwriaeth Palesteina Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Roedd mynachod Uniongred Gwlad Groeg yn dysgu trigolion lleol sut i gerfio pren olewydd.[1] Datblygodd y grefft a daeth yn ddiwydiant mawr ym Methlehem a threfi cyfagos fel Beit Sahour a Beit Jala yn yr 16g a'r 17g pan ddysgodd crefftwyr Eidalaidd a Ffransisgaidd ar bererindod i'r ardal y preswylwyr sut i gerfio. Ers hynny mae'r traddodiad wedi cael ei drosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth yn enwedig gan ddisgynyddion y cerfwyr lleol gwreiddiol.

Heddiw, mae'r gelf yn parhau i fod yn brif ffynhonnell incwm i drigolion Cristnogol Palestinaidd Bethlehem a hi yw'r atyniad twristiaeth mwyaf (a'r mwyaf proffidiol) yn y ddinas gyda'r prif brynwyr yn bererinion Cristnogol yn ymweld yn ystod y Nadolig.[2] Mae pren olewydd yn cael ei gerfio'n groesau, blychau, fframiau lluniau, cloriau ar gyfer llyfrau hanesyddol a hen, canhwyllbrennau, rosaris, wrnau, fasau ac addurniadau Nadolig yn ogystal â golygfeydd o'r Teulu Sanctaidd.[2] Mae canghennau pren olewydd yn cael eu cyflenwi gan lwyni olewydd mewn pentrefi cyfagos yn ogystal ag o ranbarth Nablus a Tulkarm, er gwaethaf anhawster cludo yn y Lan Orllewinol.[2]

Y broses gynhyrchu golygu

Mae'r broses o gynhyrchu gwrthrych o bren yr olewydd yn gofyn am dipyn go lew o amser a llafur ac mae'n cynnwys sawl cam, yn aml mae'n cynnwys gwaith mwy nag un crefftwr. Defnyddir peiriannau drilio i ddechrau i greu amlinelliad bras. Nesaf, trosglwyddir y darn i grefftwr medrus sy'n trawsnewid yr amlinelliad bras yn gynnyrch gorffenedig trwy gerfio'r manylion. Yn olaf, rhaid i'r eitem orffenedig gael ei llyfnu a'i sgleinio fel llygad dafad, yna'i gorchuddio â chwyr neu olew o'r olewydd i roi "sglein naturiol" i'r gwrthrych a sicrhau ei hirhoedledd.

Yn ddibynnol ar beth yw'r cynnyrch penodol, gallai'r broses gymryd hyd at 45 diwrnod. Mae'r mwyafrif o grefftwyr proffesiynol yn mynd trwy chwech i saith mlynedd o hyfforddiant.

 
Y Teulu Sanctaidd mewn coed olewydd. Beit Sahour, 2000.

Defnyddir pren yr olewydd oherwydd ei bod yn haws ei gerfio na choed eraill a gellir ei gerfio'n fanwl gydag offer llaw syml. Hefyd, mae ganddo amrywiaeth o liw naturiol a dyfnder arlliw, oherwydd yr haenau tywyll, blynyddol.[2][3]

Cyfeiriadau golygu

  1. Bethlehem olive wood Crafts Archifwyd 2019-05-23 yn y Peiriant Wayback. Gifts and Crafts.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 blessings gift shop and The Olive wood factory in Bethlehem
  3. Bethlehem Olive Wood Factory Bethlehem Workshop