Cerflun Daniel Owen, Yr Wyddgrug
Mae Cerflun Daniel Owen yn gofeb sy'n sefyll ar Sgwâr Daniel Owen yn yr Wyddgrug, Sir y Fflint.[1]
Math | cerfddelw |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Yr Wyddgrug |
Sir | Sir y Fflint |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 112 metr |
Cyfesurynnau | 53.167073°N 3.143266°W |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Deunydd | efydd |
Mae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |
Cefndir
golyguRoedd Daniel Owen (20 Hydref 1836 – 22 Hydref 1895) yn deiliwr yn nhref yr Wyddgrug a ddaeth i amlygrwydd trwy boblogeiddio arddull y nofel mewn llenyddiaeth Gymraeg.[2]
Ym 1895 bu ymgyrch i godi tysteb i Daniel Owen, fel arwydd o ddiolchgarwch y genedl am ei gyfraniad i lenyddiaeth, ond bu farw cyn i'r casglu dod i ben. Yn fuan wedi ei farwolaeth cynhaliwyd cyfarfod yng Ngwesty'r Westminster, Caer, i drafod gwneud casgliad i greu cofeb i'r awdur, gan ddefnyddio arian y dysteb fel arian cychwynnol. Sefydlwyd pwyllgor i drefnu'r casgliad ac i drefnu'r gwaith o godi'r cofeb. Dewiswyd Llywelyn Eaton, yr Wyddgrug, yn ysgrifennydd y pwyllgor coffa yng Ngogledd Cymru, a'r Parch. J. A. Jenkins, Coleg Prifysgol Cymru Caerdydd, yn ysgrifennydd yn y Deheudir.[3]
Creu'r cerflun
golyguPenderfynodd y pwyllgor coffa i ofyn i'r cerflunydd Cymreig William Goscombe John i greu'r cofeb. Cytunodd John i wneud y gwaith am gost y deunydd yn unig. Rhoddwyd darn fawr o garreg i fod yn sylfaen i'r cerflun yn rhad gan Hugh Grosvenor, Dug 1af Westminster.[1]
Roedd cynllun Goscombe John yn ddelwedd mewn efydd wedi ei seilio ar ddarlun o'r awdur a baentiwyd gan C. Marston.[4] Mae'n dangos Owen mewn safiad anffurfiol yn gwisgo cot ffrog a het Sadwrn clerigol, ac yn dal llyfr gyda nod tudalen yn ei law dde.[5]
Mae'r testun ar y garreg sylfaen yn dairiaethog: Cymraeg, Saesneg a Lladin.[5]
Dadorchuddio
golyguGosodwyd y cerflun ar ei safle tu allan i neuadd y dref a chafodd ei dadorchuddio yn swyddogol ar 31 Hydref 1901 gan Lloyd Kenyon, 4ydd Barwn Kenyon[6] a thraddododd araith Saesneg i'r dyrfa oedd wedi ymgasglu ar gyfer yr achlysur. Ar ôl y dadorchuddiad cafwyd cyfarfod coffa a thê parti i'r plant yn neuadd y dref.[7]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Owen, John; Cofiant Daniel Owen: ynghyd a Sylwadau ar ei Ysgrifeniadau; Hughes a'i Fab, Wrecsam, 1899
- ↑ "OWEN, DANIEL (1836–1895), nofelydd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2021-12-29.
- ↑ "Cofeb Daniel Owen – Y Cymro". Isaac Foulkes. 1895-11-21. Cyrchwyd 2021-12-29.
- ↑ "Daniel Owen (1836–1895) | Art UK". artuk.org (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-12-29.
- ↑ 5.0 5.1 "Mold – Yr Wyddgrug – Daniel Owen". statues.vanderkrogt.net. Cyrchwyd 2021-12-29.
- ↑ "KENYON (TEULU). | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2021-12-29.
- ↑ "COFGOLOFN DANIEL OWEN – Yr Herald Cymraeg". Daniel Rees. 1901-11-05. Cyrchwyd 2021-12-29.