Ceridwen Lloyd-Morgan
Curadur llyfrgelloedd o Gymru yw Dr Ceridwen Lloyd-Morgan. Magwyd hi yn Nhregarth ger Bangor.[1]
Ceridwen Lloyd-Morgan | |
---|---|
Ganwyd | 1950s Bangor |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | curadur llyfrgell, archifydd |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru |
Astudiodd ieithoedd modern yng Ngholeg y Santes Ann, Rhydychen, Prifysgol Poitiers a Phrifysgol Cymru. Bu'n gweithio ym mhrifysgol Caerwysg am ddwy flynedd yn dysgu yn yr adran Ffrangeg ac Eidaleg.
Bu’n gweithio fel curadur llawysgrifau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru o 1981 ymlaen, ac yna fel Pennaeth Llawysgrifau a Delweddau Gweledol yn y Llyfrgell nes ymddeol yn 2006. Yn 2023, derbyniodd Ceridwen Gymrodoriaeth er Anrhydedd yn ystod seremonïau graddio haf Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.[2]
Roedd Ceridwen yn un o sylfaenwyr y cyhoeddwr merched Cymreig Honno yn 1986. Mae hi hefyd yn cyfrannu at y cylchgrawn O'r Pedwar Gwynt.
Yn 2024, roedd hi'n byw yn Llanafan, Ceredigion.
Llyfryddiaeth
golygu- Margiad Evans (Poetry Wales Press, 1998)
- Darganfod Celf Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru, 1999) golygwyd gyda Ivor Davies.
- Cyfres Celf 2000: Delweddau o'r Ymylon - Bywyd a Gwaith Mary Lloyd Jones (Y Lolfa, 2002)
- The Celtic World - Arthurian Literature (2004)
- Arthur in the Celtic Languages (Gwasg Prifysgol Cymru, 2019) golygwyd gyda Erich Poppe.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Ceridwen Lloyd-Morgan: Bywgraffiad a Llyfryddiaeth | Y Lolfa". www.ylolfa.com. Cyrchwyd 10 Mawrth 2024.
- ↑ "Cymrodoriaeth er Anrhydedd yn Nosbarth Graddio 2023". Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. 2023-07-07. Cyrchwyd 10 Mawrth 2024.