Tre-garth

pentref yng Ngwynedd

Pentref yng nghymuned Llandygái, Gwynedd, Cymru, yw Tre-garth[1] neu Tregarth[2] ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Fe'i lleolir rhwng Bethesda a dinas Bangor gerllaw Afon Ogwen. Saif Chwarel y Penrhyn rhwng Tregarth a Bethesda, a thyfodd y pentref yn bennaf fel trigfan i'r chwarelwyr. O'r boblogaeth o tua 1,000, mae o gwmpas 70% yn siarad Cymraeg.

Tre-garth
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.18°N 4.1°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH603678 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auSiân Gwenllian (Plaid Cymru)
AS/auHywel Williams (Plaid Cymru)
Map

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Siân Gwenllian (Plaid Cymru)[3] ac yn Senedd y DU gan Hywel Williams (Plaid Cymru).[4]

Hanes golygu

Yn ystod y streic fawr yn Chwarel y Penrhyn, dychwelodd rhai o'r gweithwyr i'r chwarel yn ystod y streic, ac ystyrid hwy yn "Fradwyr" gan y gweddill. Symudodd nifer o'r rhain o Fethesda i Dregarth, lle'r adeiladwyd tai ar eu cyfer gan Arglwydd Penrhyn. Gelwid un stryd yn Nhregarth yn "Stryd y Gynffon" am flynyddoedd wedyn.

Ar un adeg yr oedd dwy reilffordd yn rhedeg trwy'r pentref, sef cangen oedd yn rhedeg i Fethesda o'r brif lein LNWR, a gaewyd yn 1963, a Rheilffordd Chwarel y Penrhyn oedd yn cael ei defnyddio i gario llechi i Porth Penrhyn i'w hallforio, ac a gaewyd yn 1962. Agorwyd darn o drac yr hen reilffordd fel Lôn Las Ogwen.

Enwogion golygu

Ymhith enwogion sy'n enedigol o Dregarth a'r cyffiniau mae:

 
Trac yr hen reilffordd, Tregarth

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 19 Ionawr 2022
  3. Gwefan Senedd Cymru
  4. Gwefan Senedd y DU

Dolenni allanol golygu