Bardd, awdur straeon byrion, a nofelydd Lithwanaidd yn yr iaith Iddew-Almaeneg oedd Chaim Grade (5 Ebrill 191026 Mehefin 1982).

Chaim Grade
Ganwyd4 Ebrill 1910 Edit this on Wikidata
Vilnius Edit this on Wikidata
Bu farw26 Mehefin 1982 Edit this on Wikidata
Dinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethYmerodraeth Rwsia, Yr Undeb Sofietaidd, Unol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Novardok Yeshiva Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, llenor, rabi, hunangofiannydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amThe Yeshiva Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Itzik Manger Edit this on Wikidata

Ganed yn Vilna, Ymerodraeth Rwsia (bellach Vilnius, Lithwania), i rabi Seionaidd a gwerthwraig stryd. Gallasent olrhain eu llinach i swyddog ym myddin Ffrainc a gafodd ei anafu yn ystod Rhyfeloedd Napoleon, trodd yn Iddew a phriododd un o'r teulu yn Vilna a ofalai amdano. Bu farw tad Chaim pan oedd yn fachgen, a bu ei fam yn ymlafnio i arbed digon o arian iddo dderbyn addysg Iddewig draddodiadol. Astudiodd Chaim mewn sawl yeshiva ac ymunodd â'r mudiad addysg Musar.[1]

Yn 22 oed, trodd ei gefn ar ei astudiaethau crefyddol a dechreuodd lenydda. Ymunodd â Yung Vilne ("Vilna Ifanc"), carfan o awduron ac arlunwyr Iddewig yr avant-garde. Wedi iddo ysgrifennu nifer o gerddi ar gyfer cylchgronau Iddew-Almaeneg, cyhoeddodd Grade ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth, Yo, yn 1936. Yn sgil goresgyniad Lithwania gan yr Almaen Natsïaidd yn ystod cyrch Barbarossa yn 1941, ffoes Grade i Rwsia. Dychwelodd i Vilna wedi diwedd yr Ail Ryfel Byd, a darganfu bod ei wraig a'i fam wedi eu lladd. Ymfudodd i Baris ac yno ysgrifennodd farddoniaeth danbaid ar bwnc yr Holocost. Yn 1948, ymfudodd Grade a'i ail wraig i Ddinas Efrog Newydd.[1]

Ymhlith ei weithiau mae'r ymgom athronyddol Mayn krig mit Hersh Rasseyner (1950), yr atgof Der mame's Shabosim (1955), y nofel Di agune (1961), y nofel fer Der brunem (1967), a'r nofel mewn dwy gyfrol Tsemakh Atlas (1967–68). Bu farw yn Ninas Efrog Newydd yn 72 oed.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Chaim Grade. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 21 Mawrth 2020.