Llifogydd Môr Hafren, 1607

Arweiniodd Llifogydd Môr Hafren neu'r Llifogydd Mawr yn 1607[a] at foddi llawer o bobl a dinistrio llawer o dir ffermio a da byw. Yn 2004 awgrymwyd y gallai'r llifogydd fod wedi eu hachosi gan tsunami, ond nid oes tystiolaeth gadarn. Mae ymchwydd storm yn fwy tebygol oherwydd maint y llanw, y tywydd a llifogydd tebyg yr un diwrnod mewn ardaloedd arall yng ngwledydd Prydain.[1][2]

Darlun cyfoes o lifogydd 1607. Credir mai'r eglwys yw Eglwys Santes Fair yn Nhrefonnen, ger Casnewydd.

Y llifogydd a'u heffeithiau golygu

Ar 30 Ionawr 1607, o gwmpas hanner dydd, cafodd arfordiroedd Môr Hafren eu heffeithio gan lifogydd annisgwyl o uchel a dorrodd yr amddiffynfeydd arfordirol mewn sawl man. Gorchuddiwyd llawer o dir isel yn Ne Cymru, Dyfnaint, Gwlad yr Haf a Swydd Gaerloyw. Roedd y difrod yn arbennig o ddifrifol yng Nghymru, gan ymestyn o Dalacharn yn Sir Gaerfyrddin y tu hwnt i Gas-gwent yn Sir Fynwy. Caerdydd oedd y dref yr effeithiwyd arni fwyaf - dinistriwyd sylfeini Eglwys Santes Fair yno.[3]

Amcangyfrifir bod 2,000 neu fwy o bobl wedi eu boddi, bod tai a phentrefi wedi'u hysgubo i ffwrdd, tua 200 milltir sgwar o dir fferm wedi'i orlifo, a da byw wedi'u dinistrio,[4] gan ddinistrio'r economi leol ar hyd arfordir Môr Hafren ac aber Afon Hafren.

Effeithiwyd hefyd ar arfordir Dyfnaint a Gwastadeddau Gwlad yr Haf mor bell i mewn i'r tir â Glastonbury Tor, 14 mile (23 km) o'r arfordir. Torrwyd y morglawdd yn Burnham-on-Sea[5] a llifodd y dŵr dros y lefelau isel a'r rhostiroedd.

Cafodd 30 o bentrefi yng Ngwlad yr Haf eu heffeithio, gan gynnwys Brean a gafodd ei "lyncu" a lle dinistriwyd saith o'r naw tŷ gyda 26 o'r trigolion yn cael eu lladd. Am ddeng niwrnod cafodd Eglwys yr Holl Saint yn Kingston Seymour, ger Weston-super-Mare, ei llenwi â dŵr i ddyfnder o 5 troedfedd (1.5 metr). Mae marc yn dal i fod yno sy'n dangos mai lefel uchaf y dŵr oedd 7.74 metr (25 troedfedd 5 modfedd) uwchlaw lefel y môr.[6][7]

Mae nifer o blaciau coffa yn dal i fodoli, hyd at 8 troedfedd (2.4 metr) uwchlaw lefel y môr, gan ddangos pa mor uchel y cododd y dyfroedd ar ochrau'r eglwysi a oroesodd. Er enghraifft, yn Allteuryn ger Casnewydd, mae gan yr eglwys blac pres bach, y tu mewn i'r wal ogleddol ger yr allor, sydd erbyn heddiw tua thair troedfedd uwchben lefel y ddaear, yn nodi uchder dyfroedd y llifogydd. Mae'r plac yn cofnodi'r flwyddyn fel 1606 oherwydd, o dan Galendr Iŵl oedd yn cael ei ddefnyddio bryd hynny, ni ddechreuodd y flwyddyn newydd tan 25 Mawrth. Amcangyfrifwyd mai £5,000 oedd y golled ariannol yn y plwyf o ganlyniad.

Cafodd y llifogydd ei gofio mewn pamffled gyfoes o'r enw God's warning to the people of England by the great overflowing of the waters or floods.[8][9]

Achosion posibl golygu

Nid yw achos y llifogydd yn bendant. Mae ymchwil wyddonol wedi awgrymu ymchwydd storm, cyfuniad o eithafion meteorolegol a llanw uchel. Yn 2004, awgrymwyd ei fod wedi ei achosi gan tsunami.

Damcaniaeth tsunami golygu

Mae tystiolaeth ysgrifenedig o'r cyfnod yn disgrifio digwyddiadau a oedd yn debyg i'r rhai a ddatblygodd yn y daeargryn a tsunami'r Cefnfor Indiaidd yn 2004, gan gynnwys y môr yn cilio cyn i'r don gyrraedd, ton o ddŵr a ruthrodd i mewn yn gynt nag y gallai dynion redeg, disgrifiad o'r tonnau fel "mynyddoedd disglair, tanllyd", a thyrfa o bobl a oedd yn sefyll ac yn gwylio'r don yn dod tuag atynt nes ei bod yn rhy hwyr i redeg. Mae rhai o'r disgrifiadau mwyaf manwl hefyd yn nodi ei bod wedi bod yn fore heulog.[10]

Awgrymodd papur ymchwil yn 2002,[11] a oedd yn seiliedig ar ymchwiliadau gan yr Athro Simon Haslett o Brifysgol Bath Spa a'r daearegwr o Awstralia Ted Bryant o Brifysgol Wollongong, y gallai'r llifogydd fod wedi eu hachosi gan tsunami, ar ôl i'r awduron ddarllen rhai disgrifiadau gan lygad-dystion yn yr adroddiadau hanesyddol a ddisgrifiai'r llifogydd.[12]

Gwnaed rhaglen gan y BBC i archwilio'r theori, "The Killer Wave of 1607", fel rhan o'r gyfres Timewatch. Er iddo gael ei wneud cyn trychineb tsunami 2004, ni chafodd ei darlledu tan 2 Ebrill 2005.[13]

Mae'r Arolwg Daearegol Prydeinig wedi awgrymu y byddai tsunami yn fwy na thebyg wedi cael ei achosi gan ddaeargryn ar ffawt ansefydlog hysbys oddi ar arfordir de-orllewin Iwerddon, gan achosi dadleoliad fertigol y llawr y môr.[14] Mae un adroddiad cyfoes yn disgrifio cryndod y ddaear ar fore'r llifogydd;[15] fodd bynnag, mae ffynonellau eraill yn dyddio'r daeargryn hwn i ychydig fisoedd ar ôl y digwyddiad.[16]

Tystiolaeth golygu

Daeth Haslett a Bryant o hyd i dystiolaeth sylweddol ar gyfer y ddamcaniaeth tsunami.[17] Roedd hyn yn cynnwys clogfeini enfawr a gafodd eu dadleoli i fyny'r traeth gan rym enfawr; haen hyd at 8 modfedd (20 cm) trwchus o dywod, cregyn a cherrig o fewn gwaddod o fwd mewn tyllau turio o Ddyfnaint i Swydd Gaerloyw a Phenrhyn Gŵyr; a nodweddion erydiad creigiau o gyflymderau dŵr uchel ar draws Aber Hafren.[18]

Damcaniaeth ymchwydd storm golygu

Mae tebygrwydd rhwng Llifogydd Mawr 1607 a'r disgrifiadau o lifogydd yn East Anglia yn 1953 o ganlyniad i ymchwydd storm. Roedd rhai o'r ffynonellau gwreiddiol yn cyfeirio at lanw uchel a gwyntoedd cryfion o'r de-orllewin, amodau sy'n nodweddiadol o ymchwydd storm. Mae Horsburgh a Horritt wedi dangos bod y llanw a'r tywydd tebygol ar y pryd yn gallu cynhyrchu ymchwydd sy'n gyson â'r gorlifiad a welwyd.[19] Cafwyd storm ddifrifol y diwrnod hwnnw a effeithiodd hefyd ar arfordir Môr y Gogledd ar ynysoedd Prydain a'r Iseldiroedd, a oedd yn cyd-daro â llanw uchel.[16]

Nodiadau golygu

  1. Modern sources for this event commonly use the Gregorian calendar, however contemporary records record the event as happening on 20 January 1606/07 under the Julian calendar (see for example the flood plaque, in St Mary's Church pictured on this page where the date is given as 20 January 1606). For a more detailed explanation of these changes in calendar and dating styles, see Old Style and New Style dates.

Cyfeiriadau golygu

  1. "The Great Flood, 1607". Living Levels (yn Saesneg). 2018-12-10. Cyrchwyd 2023-12-23.
  2. Devine, Darren (2013-11-03). "Was the great flood of 1607 Britain's tsunami?". Wales Online (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-12-23.
  3. Disney, Michael (4 January 2005). "Britain had its own big waves - 400 years ago". The Times. London. Cyrchwyd 20 February 2008.CS1 maint: ref=harv (link)
  4. BBC staff (24 September 2014). "The great flood of 1607: could it happen again?". BBC Somerset. Cyrchwyd 20 February 2008.CS1 maint: ref=harv (link)
  5. "Burnham on Sea". Somerset Guide. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 January 2011. Cyrchwyd 10 May 2010. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  6. Hawkins, Desmond (1982). Avalon and Sedgemoor. tt. 29–30. ISBN 0-86299-016-5.
  7. 1607 Bristol Channel Floods: 400-Year Retrospective RMS Special Report (PDF). Risk Management Solutions (RMS). 2007. t. 12.
  8. Disney 2005
  9. "Gods Warning to his people of England". The British Library. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-12-04. Cyrchwyd 20 February 2008.
  10. Bryant, Edward; Haslett, Simon (2007). "Catastrophic Wave Erosion, Bristol Channel, United Kingdom: Impact of Tsunami?". Journal of Geology 115 (3): 253–270. Bibcode 2007JG....115..253B. doi:10.1086/512750. http://ro.uow.edu.au/cgi/viewcontent.cgi?article=1059&context=scipapers.
  11. Bryant, Edward; Haslett, Simon (2002). "Was the AD 1607 Coastal Flooding Event in the Severn Estuary and Bristol Channel (UK) Due to a Tsunami". Archaeology in the Severn Estuary (13): 163–167. ISSN 1354-7089. http://ro.uow.edu.au/cgi/viewcontent.cgi?article=1100&context=scipapers.
  12. BBC staff (4 April 2005). "Tsunami theory of flood disaster". BBC News Online. Cyrchwyd 13 November 2010.CS1 maint: ref=harv (link)
  13. "Burnhams 1607 flood to be the focus of BBC documentary". Burnham on Sea.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 20 February 2008.
  14. BBC staff 2005
  15. Haslett, Simon K. (2010). Somerset Landscapes: Geology and landforms. Usk: Blackbarn Books. t. 159. ISBN 9781456416317.
  16. 16.0 16.1 Zijlstra, Albert (2016-06-16). "The Bristol Tsunami". Volcanocafe. Cyrchwyd 2018-04-10.
  17. Haslett, Simon; Bryant, Edward (2004). "The AD 1607 Coastal Flood in the Bristol Channel and Severn Estuary: Historical Records from Devon and Cornwall (UK)". Archaeology in the Severn Estuary (15): 81–89. ISSN 1354-7089.
  18. Bryant & Haslett 2007
  19. Horsburgh, K. J.; Horritt, M. (2006). "The Bristol Channel floods of 1607 – reconstruction and analysis". Weather 61: 272–277. Bibcode 2006Wthr...61..272H. doi:10.1256/wea.133.05.