Llenor o'r Unol Daleithiau oedd Charles McColl Portis (28 Rhagfyr 193317 Chwefror 2020) sydd yn nodedig am ei nofel True Grit.

Charles Portis
Ganwyd28 Rhagfyr 1933 Edit this on Wikidata
El Dorado Edit this on Wikidata
Bu farw17 Chwefror 2020 Edit this on Wikidata
Little Rock Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Arkansas Edit this on Wikidata
Galwedigaethnofelydd, llenor, sgriptiwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amTrue Grit Edit this on Wikidata

Ganed yn El Dorado, Arkansas, yn fab i Samuel Palmer Portis a'i wraig Alice, Waddell gynt. Fe'i magwyd mewn sawl tref yn ne-ddwyrain Arkansas, a mynychodd yr uwchysgol yn nhref Hamburg. Gweithiodd yn fecanydd ceir cyn iddo ymuno â Chorfflu Môr-filwyr yr Unol Daleithiau yn 1952. Gwasanaethodd yn Rhyfel Corea, a chyrhaeddodd reng rhingyll erbyn iddo ddychwelyd i'r Unol Daleithiau. Astudiodd newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Arkansas, Fayetteville, ac ysgrifennodd i'r papur myfyrwyr, The Arkansas Traveler, a'r papur newydd lleol, The Northwest Arkansas Times. Derbyniodd ei radd yn 1958, a gweithiodd yn ohebydd i The Memphis Commercial Appeal ac yn ohebydd a cholofnydd i The Arkansas Gazette. Ymunodd â The New York Herald Tribune in 1960, a bu'n ysgrifennu i'r papur hwnnw yn ne'r Unol Daleithiau cyn iddo gael ei benodi'n pennaeth y swyddfa dramor yn Llundain.[1]

Yn 1964, penderfynodd Portis ysgrifennu ffuglen fel awdur llawn-amser. Cyhoeddodd bum nofel yn ystod ei yrfa: Norwood (1966), True Grit (1968), The Dog of the South (1979), Masters of Atlantis (1985), a Gringos (1991). Bu farw mewn hosbis yn Little Rock, Arkansas, yn 86 oed.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Roy Reed, "Charles Portis, Elusive Author of ‘True Grit,’ Dies at 86", The New York Times (17 Chwefror 2020). Adalwyd ar 21 Chwefror 2020.