Rhyfel Corea

rhyfel rhwng Gogledd a De Corea, 1950–1953

Rhyfel rhwng De Corea dan Syngman Rhee gyda chefnogaeth milwyr o nifer o wledydd gorllewinol a Gogledd Corea dan Kim Il-Sung gyda chefnogaeth milwyr o Weriniaeth Pobl Tsieina oedd Rhyfel Corea.

Ymladd rhwng milwyr yr Unol Daleithiau a milwyr Gogledd Corea yn Seoul, 1950.
Newidiadau yn y diriogaeth a reolid gan y ddwy ochr yn ystod y rhyfel.

Dechreuodd y rhyfel fel ysgarmesoedd ar y ffîn rhwng y de a'r gogledd. Cynhaliwyd etholiadau yn Ne Corea ym mis Mai 1950. Ni wnaeth cefnogwyr y gogledd yn dda, a mynnodd Gogledd Corea fod yr etholiadau'n cael eu hail-gynnal. Gwrthododd y de ac ar 25 Mehefin 1950 symudodd milwyr Gogledd Corea tua'r de i geisio aduno'r wlad. Parhaodd yr ymladd hyd y cadoediad ar 27 Gorffennaf 1953.

Cafodd byddin y gogledd lwyddiannau buan, a gorfodwyd milwyr De Corea i encilio. Meddiannwyd dinas Seoul gan fyddin Gogledd Corea ar 28 Mehefin. Pasiwyd penderfyniad yn y Cenhedloedd Unedig yn galw ar Ogledd Corea i encilio o'r de. Ar y pryd, roedd yr Undeb Sofietaidd wedi penderfynu peidio cymryd rhan yn y Cenhedloedd Unedig, felly ni allent atal y penderfyniad i roi cymorth milwrol i Dde Corea. Milwyr yr Unol Daleithiau oedd y garfan fwyaf a gymerodd ran yn y rhyfel, ond cafwyd milwyr hefyd gan y Deyrnas Unedig,Canada, Awstralia, Seland Newydd, Ffrainc, De Affrica, Twrci, Gwlad Tai, Groeg, yr Iseldiroedd, Ethiopia, Colombia, y Ffilipinau, Gwlad Belg, a Lwcsembwrg.

Ar y cyntaf, nid oedd y nifer o filwyr yr Unol Daleithiau yn fawr, a gorchfygwyd hwy yn Osan ar 5 Gorffennaf. Erbyn mis Awst, dim ond tiriogaeth bychan yn y de-ddwyrain o gwmpas Pusan oedd ym meddiant y de. Llwyddasant i gadw gafael ar Pusan wedi brwydro caled. Cyrhaeddodd mwy o filwyr y Cenhedloedd Unedig, a bu bomio trwm gan awyrennau'r Unol Daleithiau. Gwrthymosodwyd ar 15 Medi gyda glaniad yn Inchon, a chipiwyd Seoul yn ôl. Bu raid i filwyr y gogledd encilio, a symudodd lluoedd y de a'r Cenhedloedd Unedig ymlaen i'r gogledd, gyda'r bwriad o uno Corea i gyd dan lywodraeth Syngman Rhee.

Wrth iddynt ddynesu at ffîn Tsieina, rhybuddiodd llywodraeth Tsieina hwy y byddai'n cymryd rhan yn y rhyfel. Ar 19 Hydref symudodd milwyr Tsieina tua'r ffîn, ac ar 1 Tachwedd 1950 daethant i wrthdrawiad a lluoedd yr Unol Daleithiau. Gorfodwyd milwyr De Corea a'r Unol Daleithiau i encilio tua'r de. Ar 4 Ionawr 1951 cipiwyd Seoul gan fyddin Tsieina. Ail-feddiannwyd y ddinas gan yr Unol Daleithiau ar 14 Mawrth. Fesul tipyn, gyrrwyd y Comiwnyddion yn ôl tua'r ffîn rhwng Gogledd a De Corea.

O Hydref 1951 hyd fis Gorffennaf 1953 parhaodd yr ymladd heb lawer o newid o ran y tiriogaeth ym meddiant y ddwy ochr. Parhaodd trafodaethau heddwch am ddwy flynedd, yn Kaesong ac yna yn Panmunjon. Cytunwyd i gadoediad ar 27 Gorffennaf 1953.