Arkansas
Mae Arkansas yn dalaith yn ne canolbarth yr Unol Daleithiau, sy'n gorwedd i'r gorllewin o Afon Mississippi. Mae Afon Arkansas yn torri'r dalaith yn ddau o'r gorllewin i'r dwyrain. Mae enw y dalaith yn tarddu o ymganiad Ffrangeg o’r enw brodorol yr ardal. Little Rock yw'r brifddinas. Maint y dalaith yw 53,182 milltir sgwâr, a’r poblogaeth (ym 2013) 2.959,373.[1] Mae Arkansas yn gartref i gwmni Wal-Mart a hefyd Rheilffordd yr Union Pacific.[2]
Arwyddair | Regnat populus |
---|---|
Math | taleithiau'r Unol Daleithiau |
Enwyd ar ôl | Quapaw |
Prifddinas | Little Rock |
Poblogaeth | 3,011,524 |
Sefydlwyd | |
Anthem | Arkansas, Arkansas |
Pennaeth llywodraeth | Sarah Sanders |
Cylchfa amser | UTC−06:00, Cylchfa Amser Canolog, America/Chicago |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Saesneg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | taleithiau cyfagos UDA |
Sir | Unol Daleithiau America |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Arwynebedd | 137,733 km² |
Uwch y môr | 198 metr |
Gerllaw | Afon Mississippi |
Yn ffinio gyda | Tennessee, Missouri, Oklahoma, Texas, Louisiana, Mississippi |
Cyfesurynnau | 34.8°N 92.2°W |
US-AR | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Government of Arkansas |
Corff deddfwriaethol | Arkansas General Assembly |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Governor of Arkansas |
Pennaeth y wladwriaeth | Sarah Sanders |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Governor of Arkansas |
Pennaeth y Llywodraeth | Sarah Sanders |
Mae’r dalaith yn cynnwys Parc Cenedlaethol y Ffynonellau Poethion, Fforest Genedlaethol yr Ozarks ac Sfon Gwnedlaethol Buffalo.[3]
Hanes
golyguCyrhaeddodd y fforiwr Sbaeneg Hernando De Soto ym 1541. Daeth pobl o Ffrainc i’r ardal ym 1686. Roedd Arkansas yn rhan o Bryniant Louisiana gan yr Unol Daleithiau yn 1803. Daeth yn dalaith ar 15 Mehefin 1836, ymneilltuodd o'r Undeb yn 1861 a chafodd ei chynnwys eto yn 1868. Cedwyd caethweision yn Arkansas, felly daeth y dalaith yn rhan o Gynghrair Taleithiau'r De ym 1861. Boddwyd tua 20% o’r dalaith gan lifogydd ym 1927, tuag at 30 troedfedd o ddyfnder; bu farw bron 100 o bobl. Yn dilyn yr achos llys Brown yn erbyn y Bwrdd Addysg, datganwyd bod cyfleusterau addysg ‘ar wahŵn ond cyfartal’ yn anghyfansoddiadol. Gwrthodwyd mynediad i Ysgol Uwchradd Little Rock ym 1957. Gorchmynodd yr arlwydd Dwight D. Eisenhower bod milwyr yn mynd â’n nhw i’r ysgol.[4]
Dinasoedd Arkansas
golygu1 | Little Rock | 193,524 |
2 | Fort Smith | 86,209 |
3 | Fayetteville | 73,580 |
4 | Springdale | 69,797 |
5 | Conway | 58,908 |
Enwogion
golyguCyfeiriadau
golyguDolen allanol
golygu- (Saesneg) portal.arkansas.gov Archifwyd 2012-08-04 yn y Peiriant Wayback